Mae cefnogaeth i drosglwyddo rheolaeth dros Ystâd y Goron i Gymru yn tyfu’n gyflym, gyda 19 o awdurdodau lleol bellach yn cefnogi’r alwad i roi’r ased economaidd hanfodol hwn yn nwylo Cymru.
Man cychwyn y galwadau oedd i Gyngor Abertawe basio cynnig cyntaf i gefnogi’r alwad ym mis Medi 2024, ac mae’r nifer sydd wedi ymuno yn yr alwad wedi cynyddu’n gyflym wrth i gynghorau ledled Cymru ymateb i bwysau cynyddol gan y cyhoedd. Y cyngor diweddaraf i ymuno â’r ymgyrch yw Cyngor Caerdydd ar 27 o Fawrth 2025.
Y cynghorau sydd wedi pasio cynigion yw:
Cyngor Abertawe, Cyngor Gwynedd, Cyngor Sir Fynwy, Cyngor Sir Ddinbych, Cyngor Sir Gaerfyrddin, Cyngor Sir Powys, Cyngor Sir Ceredigion, Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Cyngor Sir y Fflint, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, Cyngor Sir Ynys Môn, Cyngor Bro Morgannwg, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent a Chyngor Caerdydd.
Pam bod hyn yn Bwysig?
Mae Ystâd y Goron yn rheoli ardaloedd helaeth o dir a môr Cymru, gan gynnwys 65% o’r glannau a gwelyau afonydd, a dros 50,000 erw o dir. Mae’r elw o ddatblygiadau fel ffermydd gwynt ar y môr yn gadael Cymru, mae hyd at 75% o’r refeniw ohonynt yn mynd yn syth i Drysorlys y Deyrnas Gyfunol, a 25% arall yn cael ei ddyrannu i’r frenhiniaeth - gan adael Cymru heb unrhyw lais dros sut y defnyddir ein hadnoddau ein hunain.
Datgelodd cais Rhyddid Gwybodaeth yn 2023 fod gwerth Ystâd y Goron yng Nghymru wedi codi i £853 miliwn, gyda 93% o hynny’n dod o ynni adnewyddadwy ar y môr - sector sy’n mynd i dyfu’n sylweddol yn y blynyddoedd i ddod. Yn y cyfamser, canfu arolwg barn YouGov yn 2023 fod 75% o bobl Cymru yn cefnogi trosglwyddo rheolaeth dros Ystâd y Goron i Gymru.
Er bod yr Alban wedi sicrhau rheolaeth dros ei hystâd yn 2016, mae Llywodraeth Geidwadol flaenorol a Llywodraeth Lafur bresennol San Steffan, ill dau, wedi gwrthod galwadau i roi’r un pwerau i Gymru.
Cynghorau yn Gwneud Safiad
Wrth i awdurdodau lleol wynebu pwysau ariannol difrifol, mae’r symiau sylweddol o arian sy’n llifo allan o Gymru i Ystâd y Goron yn fater brys. Yn ddiweddar, beirniadodd Cyngor Gwynedd y £160,000 y talodd i Ystâd y Goron y llynedd gan ddweud ei fod yn “anghynaladwy ac anfoesol”, yn enwedig wrth i gynghorau frwydro i ariannu gwasanaethau hanfodol.
YesCymru yn Galw am Weithredu
Dywedodd Cadeirydd YesCymru, Phyl Griffiths:
"Mae hyn yn drobwynt. Mae awdurdodau lleol ledled Cymru yn yn mynnu yr hyn sy’n ddyledus i ni – y gallu i reoli ein hadnoddau naturiol ein hunain er budd ein cymunedau. Mae San Steffan wedi anwybyddu’r galwadau hyn am yn rhy hir, er bod yr Alban eisoes wedi cael y pwerau.
"Rydym yn sôn am £853 miliwn o gyfoeth Cymru, llawer ohono’n dod o ynni adnewyddadwy ar y môr, a allai gael ei ail-fuddsoddi yng Nghymru yn hytrach na chael ei sugno i Lundain. Nid dim ond mater ariannol yw hwn; mae’n fater o degwch i ni a’n hunanbenderfyniad."
"Mae’r ffaith bod cymaint o gynghorau wedi gweithredu yn dangos y gwahaniaeth y gall ymgyrchu ar lawr gwlad ei wneud. Mae aelodau YesCymru wedi bod wrth galon yr ymgyrch hon, gan brofi, trwy gydweithio, y gallwn newid tirwedd wleidyddol Cymru. Ond mae angen mwy o bobl i gymryd rhan. Os ydych chi am weld newid gwirioneddol, nawr yw’r amser i ymuno â YesCymru a’n helpu i gryfhau yr ymgyrch hon ymhellach fyth.”