Mae YesCymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i fod yn llawer yn fwy cadarn wrth fynnu cyllid teg a rheolaeth dros adnoddau Cymru, wedi i Andy Burnham alw am fargen newydd i ogledd Lloegr
Yn dilyn gweld arweinwyr gwleidyddol a busnes yn ymgynnull ar gyfer Cynhadledd y Gogledd (Lloegr), mae’n glir bod arweinwyr ledled y Deyrnas Gyfunol yn gynyddol eofn wrth alw am ddosbarthu adnoddau yn deg - ac mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru wneud yr un peth.
Mae Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol yn parhau i anwybyddu Cymru, gan wadu cyllid teg a phwerau i wneud penderfyniadau. Tra bod Burnham yn ymladd dros ogledd Lloegr, pleidleisiodd ASau Llafur - gan gynnwys y rhai o Gymru - yn erbyn datganoli Ystâd y Goron i Gymru, yn groes i safbwynt Llywodraeth Cymru sy’n cael ei harwain gan y Blaid Lafur.
Fe wnaeth Llywodraeth flaenorol San Steffan wrthod darparu £4bn o gyllid y dylai Cymru fod wedi’i dderbyn yn sgil cynllun HS2 - arian a allai fod wedi trawsnewid ein hisadeiledd a chreu cyfleoedd economaidd ledled y wlad - ac nid yw’r Llywodraeth bresennol wedi gwneud dim i wthrdroi y penderfyniad hwnnw.
Mae gormod yn y fantol i’r Llywodraeth beidio gwneud mwy. Mae etholiadau nesaf y Senedd ym mis Mai 2026 yn nesáu, a mae posibiliad y bydd methiant Llywodraeth Cymru i fynnu cyllid teg a rheolaeth dros adnoddau Cymru nid yn unig yn niweidio economi Cymru ond hefyd yn siapio’r dirwedd wleidyddol mewn ffyrdd annisgwyl.
Dywedodd Cadeirydd YesCymru, Phyl Griffiths:
Mae Andy Burnham yn dangos sut gall arweinwyr sefyll lan dros eu cymunedau a mynnu tegwch, hyd yn oed pan fo hynny’n golygu herio aelodau o’u plaid eu hunain yn Llundain. Mae’n rhaid i Eluned Morgan a Llywodraeth Cymru fod llawer yn fwy cadarn wrth alw am gyllid teg a rheolaeth dros ein hadnoddau naturiol. Tra bod gogledd Lloegr a'r Alban yn cael eu cymryd o ddifrif, mae Cymru yn parhau i gael ei hanwybyddu.
Mae nifer cynyddol o gynghorau ledled Cymru wedi pleidleisio dros gefnogi galwad YesCymru i drosglwyddo rheolaeth dros Ystâd y Goron i Gymru. Mae’n fandad na ellir ei anwybyddu sy’n dangos cefnogaeth ar hyd y wlad ac yn arwydd clir na fyddwn yn derbyn bod ein hasedau yn cael eu tynnu oddiarnom mwyach.
Mae angen arweinyddiaeth gref arnom gan Lywodraeth Cymru i ymladd dros yr hyn sy’n eiddo i ni. Os yw pobl yn teimlo eu bod yn cael eu hanwybyddu a’u hesgeuluso, bydd yn creu cyfle i’r dde eithafol ecsbloetio eu siom - bygythiad a fyddai’n niweidiol iawn i ddemocratiaeth Cymru.
Yn y pendraw dim ond annibyniaeth a fydd yn gwarantu bod gan Gymru'r grymoedd i amddiffyn ei phobl, ei hadnoddau, a'i heconomi rhag esgeulustod San Steffan.