Cynhaliodd YesCymru wrthdystiad brys heddiw ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam mewn ymateb i lythyr gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Jo Stevens, yn cadarnhau na fydd Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol yn trosglwyddo rheolaeth dros Ystad y Goron i Gymru.
Roedd yr AS Llafur dros Ddwyrain Caerdydd yn ateb ar ran y Prif Weinidog Keir Starmer i lythyr gan YesCymru yn galw am drosglwyddo Ystad y Goron – sy'n rheoli hawliau’r gwely môr, trwyddedau gwynt ar y môr, ac adnoddau naturiol – i Gymru.
Mae YesCymru wedi arwain yr ymgyrch genedlaethol i drosglwyddo rheolaeth dros Ystad y Goron i Gymru dros y blynyddoedd diwethaf, gan arwain at bob un o'r 22 cyngor yng Nghymru yn cefnogi 'r ymgyrch. Yn ogystal, trefnodd YesCymru wrthdystiad yn y Senedd mis diwethaf lle gofynnwyd i Aelodau'r Senedd gefnogi'r ymgyrch yn gyhoeddus.

Wrth gyhoeddi'r gwrthdystiad brys yn yr Eisteddfod ar y cyfryngau cymdeithasol nos Iau, yn syth ar ôl derbyn y llythyr, dywedodd Phyl Griffiths, Cadeirydd YesCymru:
“Er gwaethaf cefnogaeth pob un o 22 cyngor Cymru, yn ogystal â'r achos economaidd clir dros reolaeth Gymreig dros ein hadnoddau naturiol ein hunain, mae San Steffan yn dweud na.
Yn hytrach nag ymddiried yng Nghymru i reoli ein moroedd, ynni a’n dyfodol, maen nhw’n dewis amddiffyn y status quo – lle mae penderfyniadau am Gymru yn cael eu gwneud yn Llundain, ac mae’r elw’n llifo allan o Gymru."
Ymgasglodd cefnogwyr yn stondin YesCymru cyn symud ymlaen i stondin y Blaid Lafur, lle traddododd y Cadeirydd Phyl Griffiths a'r Cyfarwyddwr Rob Hughes areithiau pwerus yn mynnu rheolaeth dros ein hadnoddau ein hunain.
Dywedodd Phyl Griffiths
"Mae enghraifft Ystad y Goron yn profi bod y broses o echdynnu dal yn fyw yng Nghymru'r 21ain ganrif ac wedi arwain at bob un o'r 22 awdurdod lleol yn siarad ag un llais – gan bwysleisio'r ffaith ein bod yn genedl. Fodd bynnag, mae ymateb llywodraeth Llundain i'n galwad i drosglwyddo rheolaeth dros Ystad y Goron i Gymru ond yn profi eu bod yn ein gweld ni fel dim mwy na rhanbarth o'r Deyrnas Gyfunol."
Dywedodd Rob Hughes:
"Mae ymateb sarhaus Jo Stevens i ewyllys pobl Cymru yn ddiwrnod tywyll i'r rhai sy’n dal i lynu wrth y gobaith y bydd y Deyrnas Gyfunol yn goroesi. Mae nifer cynyddol o bobl Cymru bellach yn gweld annibyniaeth fel rhywbeth anochel, ac mae YesCymru yn credu’n gryf y bydd yn digwydd yn llawer cynt nag y mae unrhyw un yn ei ddisgwyl."
Mae YesCymru wedi addo dwysáu’r ymgyrch mewn ymateb i fethiant San Steffan i barchu ewyllys pobl Cymru, gyda chamau pellach a chyhoeddiadau i’w rhannu gyda’r aelodau a’r cefnogwyr yn ystod yr wythnosau nesaf.