Mae YesCymru wedi bod yn nodi ei 10fed penblwydd gydag arddangosfa gelf i arddangos talent artisitig gorau Cymru.
Wedi’i sefydlu gan Christine Moore a chyd-aelodau YesCymru Pen-y-bont ar Ogwr, mae arddangosfa “Celf Annibyniaeth” wedi’i chynllunio i ddathlu 10 mlynedd ers sefydlu’r mudiad dros annibyniaeth Cymru, YesCymru.
Dros yr haf, gwahoddwyd artistiaid proffesiynol ac artistiaid â photensial ledled Cymru i anfon darnau celf ar y thema ‘annibyniaeth Cymru’ ar gyfer yr arddangosfa gelf, gyda’r darnau buddugol yn cael eu harddangos yn Oriel Gelf Heol y Frenhines yng Nghastell-nedd o 2 – 30 Tachwedd 2024.
Cydlynwyd yr arddangosfa gyda chymorth Perchennog Oriel Stryd y Frenhines Castedd-nedd, Bethan Ash a ymunodd a’r panel beirniadu ynghyd ag artistiaid Cymreig enwog eraill, Iwan Bala a Claire Hiett.
Cyhoeddwyd yn ddiweddar mai’r ennillwyr oedd Gus Payne, Sally Anne Llywellyn, Geraint Bala, Ian Fisher a Lynne Edwards.
Mae gwaith Sally o’r enw Annibyniaeth yn darlunio geiriau eiconig y canwr Gruff Rhys a Dafydd Iwan “Yma o Hyd” mewn pastel acrylig ac olew.
Ysbrydolwyd cynnig Geraint, Y Cwm yn Lerpwl (Tachwedd 1956) gyda diolch I Geoff Charles, gan y llun papur newydd eiconig o orymdaith bobl Cwm Celyn yn Lerpwl ym 1956.
Ysbrydolwyd ysgythriad Ian, o’r enw Fool’s Cap Atlas, gan engrafiad o’r 16eg ganrif o Fap Capan Byd y Ffwl.
Mae gwaith Lynn, YesCymru March yn gludlun lliwgar sy’n darlunio un o orymdeithiau’r mudiad dros annibyniaeth.
Artist o Ferthyr Tydful, Gus Payne, yw prif enillydd Cystadleuaeth Celf Annibyniaeth cyntaf YesCymru yr hydref hwn, ac mae ei waith buddugol yn cael sylw ynghyd â’r rhai sydd ar restr fer Oriel Heol y Frenhines yng Nghastell-nedd.
Mae Gus, sy’n aelod o Welsh Group of Artists, yn artist sydd wedi ennill llawer o wobrau ac wedi arddangos ei waith ledled y DU. Mae ei baentiad olew buddugol, Year for Celebrating, yn cwestiynu’r syniad o ddemocratiaeth Brydeinig, gan gyfeirio’n uniongyrchol at frenhiniaeth Prydain a’i pherthynas frwd â brenhiniaethau eraill o bob rhan o’r byd, llawer ohonynt, fel Bahrain gyda’i materion hawliau dynol.
Bydd gwaith Gus Payne hefyd yn cael sylw fel rhan o arddangosfa unigol yn Stiwdio 40, Castedd-nedd yn 2025.
Mae’r gystadleuaeth wedi bod yn llwyddiant ysgubol a’r gobaith yw y bydd yr arddangosfa’n helpu i godi proffil y mudiad ymhellach.
Dywedodd Christine Moore:
“Mae brwydro dros annibyniaeth yn ymwneud cymaint ag artistiaid a gweithiau celf ag y mae am wleidyddion a gwleidyddiaeth. Yn hanesyddol, mae artistiaid wedi chwarae rhan hollbwysig wrth ysgogi pobl a datblygu balchder a hunaniaeth genedlaethol.
“Mae gan artistiaid Cymreig ran allweddol i’w chwarae o fewn mudiad annibyniaeth Cymru, gan ddefnyddio eu gwaith fel cyfrwng i fynegi eu barn am y byd o’u cwmpas.
“Mewn oes gynyddol weledol, gall ac fe ddylai celf fod yn rym ac yn ysbrydoliaeth yng Nghymru yn y frwydr dros hunanbenderfyniad”.
Cofiwch, bydd yr arddangosfa Celf Annibyniaeth yn Oriel Heol y Frenhines, Castell-nedd, ar agor tan Ddydd Sadwrn 30ain Tachwedd.
Mae ar agor o ddydd Mawrth i ddydd Sadwrn, 10am–4pm, drwy gydol mis Tachwedd yn Oriel Heol y Frenhines, 40 Heol y Frenhines, Castell-nedd, SA11 1DL.
01639 631081 – [email protected]