YesCymru Cyf.
Hysbysiad o Gyfarfod
HYSBYSIR DRWY HYN y cynhelir Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol YesCymru Cyf.
Wyneb-yn-wyneb yn:
Y Pafiliwn Rhyngwladol, Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd LD2 3SY
Ac yn rhithiol drwy ddolen a fydd yn cael ei dosbarthu i'r holl fynychwyr cofrestredig
(Manylion cofrestru i ddilyn)
am 11:00 y bore ar ddydd Sadwrn 8 Mawrth 2025 i drafod y busnes canlynol.
AGENDA
- Croeso ac ymddiheuriadau
-
Cofnodion y cyfarfod blaenorol
I'w cytuno a materion yn codi. -
Adroddiadau a chyfrifon
Derbyn ac ystyried cyfrifon y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Rhagfyr 2023, adroddiad y Cadeirydd (gan gynnwys adroddiad cynnydd ar argymhellion yr Adroddiad Llwyd), ac adroddiad y Cyfarwyddwr Ariannol. -
Penodi Cyfarwyddwyr
Cyhoeddi a phenodi’r Cyfarwyddwyr etholedig newydd i'r Corff Llywodraethu Cenedlaethol -
Cynigion arfaethedig yr Aelodau
Dosberthir manylion pan ddaw unrhyw gynigion arfaethedig i law. Dylid anfon cynigion arfaethedig at Weinyddwr y cwmni drwy e-bost i [email protected] erbyn hanner dydd 25 Chwefror 2025. Bydd agenda ddiwygiedig yn cael ei chyhoeddi erbyn 1 Mawrth 2025. -
Unrhyw fusnes arall
I ymdrin ag unrhyw faterion a godir yn ystod y cyfarfod.
Trwy orchymyn Corff Llywodraethu Cenedlaethol YesCymru Cyf.
Phylyp Griffiths
Cadeirydd YesCymru
3 Chwefror 2025