Mae YesCymru wedi cyflwyno cais Rhyddid Gwybodaeth heddiw i Drysorlys y Deyrnas Gyfunol, yn ceisio cofnod cynhwysfawr o ohebiaeth rhwng Prif Weinidog Cymru, y Farwnes Eluned Morgan, a Changhellor y DG, Rachel Reeves, ochr yn ochr â Thrysorlys EM ynglŷn a Ystâd y Goron yng Nghymru.
Dywedodd Jim Dunckley ar ran YesCymru:
Datgelodd arolwg barn YouGov a gomisiynwyd gan Yes Cymru yn 2023 fod 75% o boblogaeth Cymru yn cefnogi rheolaeth lwyr dros ein hadnoddau, a reolir ar hyn o bryd gan Ystâd y Goron. Ac eto, mae’n ymddangos bod ein Prif Weinidog, y Farwnes Morgan, naill ai wedi colli’r memo neu wedi dewis anwybyddu ewyllys clir pobl Cymru.
Mae yna ddiffyg eglurder yma. Mae’r Prif Weinidog naill ai wedi cymryd rhan mewn trafodaethau swyddogol gyda Thrysorlys EM, neu dyw hi ddim. Pa un sy’n wir? Mae Ystâd y Goron yn cynhyrchu cannoedd o filiynau o bunnoedd y flwyddyn o ddefnydd adnoddau Cymru. Mae pobl Cymru yn haeddu atebion llawn a hynny ar frys.
Mae hyn yn teimlo fel enghraifft arall o San Steffan yn diystyru buddiannau Cymru – adlais cyfoes o Dryweryn. Os nad oes gan ein Prif Weinidog unrhyw ddylanwad ar ei meistri ar bendraw’r M4, mae’n tanlinellu unwaith eto mai annibyniaeth yw’r unig ffordd i Gymru reoli ei thynged.
Mae YesCymru yn galw am eglurder a chamau gweithredu brys, gan atgoffa Llywodraeth Cymru fod rhaid cael tryloywder ac atebolrwydd o ran diogelu adnoddau y genedl.