Cynhaliodd ymgyrchwyr o blaid annibyniaeth fflotila brotest ar y Fenai.
Y nod oedd mynnu bod rheolaeth ar asedau Ystâd y Goron Cymru yn cael ei throsglwyddo i'r Senedd.
Heglodd aelodau YesCymru Caernarfon i’r heli i haeru y dylai adnoddau Cymru fod yn nwylo’r Cymry ac y dylid eu defnyddio er budd cymunedau Cymreig.
Teithiodd y fordaith brotest, ar Brenhines y Môr, o Gei Llechi yng Nghaernarfon i Borthaethwy.
Roedd hyn yn rhan o fenter codi ymwybyddiaeth ehangach YesCymru.
Mae gan Ystâd y Goron, corfforaeth sy'n rheoli buddiannau eiddo helaeth y frenhiniaeth, bortffolio gwerth £16 biliwn o dir a gwely'r môr ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.
Mae elw, a gafodd y swm uchaf erioed o £1.1 biliwn yn ddiweddar, yn mynd yn uniongyrchol i Drysorlys y DU.
Mae 12% o’r cyfanswm yn cael ei drosglwyddo i'r teulu brenhinol trwy'r grant Sofran.
Mae gan Ystâd y Goron asedau yng Nghymru, gan gynnwys 65% o flaendraeth a gwely'r afon yng Nghymru a mwy na 50,000 erw o dir.
Mae gan Lywodraeth Cymru reolaeth dros amaethyddiaeth, coedwigaeth a physgota, addysg, yr amgylchedd ac iechyd a gofal cymdeithasol.
Dywedodd cadeirydd YesCymru, Phyl Griffiths: “Mae YesCymru yn credu mewn egwyddor syml sef y dylai adnoddau Cymru fod yn nwylo’r Cymry ac y dylid eu defnyddio er budd cymunedau Cymreig.
“Dyna pam rydyn ni’n ymgyrchu’n galed dros trosgwlyddo asedau Ystâd y Goron yng Nghymru i’r Senedd.
Ychwanegodd y byddai'r trosglwyddiad hwn yn caniatáu i elw sylweddol gael ei ail-fuddsoddi mewn prosiectau cymunedol a gwasanaethau cyhoeddus.
Dywedodd Mr Griffiths: “Mae’r brotest a gynhaliwyd gan YesCymru Caernarfon yn anfon neges glir ynglŷn â sefyllfa Cymru ar y mater hwn.
"Mae'r system bresennol, sydd yn caniatau perchnogaeth asedau Cymru gan gyrff tu hwnt I Gymru, yn grair o'r oes a fu ac yn gwbl anghyfiawn."
Tynnodd sylw at y ffaith bod y ddwy brif blaid yn San Steffan yn gwrthod trosglwyddo rheolaeth Ystâd y Goron i’r Senedd, safiad, y mae’n datgan, sy’n gwrth-ddweud dymuniadau’r rhan fwyaf o’r boblogaeth Gymreig a mwyafrif sylweddol o aelodau’r Senedd.
Dywedodd Mr Griffiths: "Mae hyn yn dangos diystyrwch llwyr o ewyllys y Cymry yn ogystal â diystyru'r hyn sydd er llês Cymru."
Daw’r brotest yn sgil trosglwyddiad rheolaeth Ystâd y Goron yr Alban i Lywodraeth yr Alban yn 2016.