Symud ymlaen o'r llywio

YesCymru @Tafwyl

Am y tro cyntaf erioed, bydd YesCymru â phresenoldeb yng ngŵyl Tafwyl eleni.

Cynhelir yr Ŵyl yn y brifddinas yr wythnos yma a bydd Llwyfan YesCymru yn y Gwerinle yn rhan graidd i’r digwyddiad. Bydd Dydd Sadwrn yn cychwyn gyda set gan Dadleoli am 5yp gyda Anhunedd a Tharan yn diweddu’r noson. Bydd cyfle hefyd i weld Alys Glyn, Mari Mathias ac Eadyth i’w mwynhau ar y Dydd Sul.

 

Yn ogystal â’r gerddoriaeth bydd stondin YesCymru ar agor drwy’r penwythnos, gyda nwyddau newydd ar gael yn ogystal â chyfle i drin a thrafod annibyniaeth yn ogystal ag ymuno neu ail-ymuno â YesCymru.

 

Dywedodd Phyl Griffiths, cadeirydd YesCymru: “Bydd gweld YesCymru’n cymryd rhan yn Tafwyl am y tro cyntaf yn gam pwysig i ni fel mudiad. Rydym yn edrych ymlaen at groesawu cefnogwyr ac aelodau newydd i’n llwyfan yng nghanol y bwrlwm gan obeithio bod llawer iawn ohonynt yn pico draw i ymweld â ni. Rydym wedi bod yn ffodus iawn i ddenu’r fath dalent i berfformio ar ein llwyfan a ‘dyn ni’n disgwyl cael llawer o hwyl a sbri, gan gymryd mantais o’r cyfle i gael trafodaethau am Gymru Annibynnol”.

 

Cynhelir Tafwyl ym Mharc Biwt, Caerdydd rhwng y 12fed a’r 14eg Gorffennaf.

Parhau i Ddarllen

Darllen Mwy

Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Gwiriwch eich e-bost am ddolen i actifadu eich cyfrif.