Aeth YesCymru â'u hymgyrch Ystâd y Goron i galon San Steffan heddiw, wrth i gyfarwyddwyr YesCymru, Rob Hughes a Sam Murphy, gyflwyno llythyr i Brif Weinidog y Deyrnas Gyfunol, Keir Starmer, yn 10 Downing Street.
Dyma'r cam nesaf mewn ymgyrch genedlaethol dan arweiniad YesCymru sydd eisoes wedi sicrhau cefnogaeth gan bob un o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru, y Senedd, a 75% o bobl Cymru. Mae'r llythyr yn galw ar Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol i drosglwyddo rheolaeth dros asedau a refeniw Ystâd y Goron i bobl Cymru.
Yn y llythyr, nododd YesCymru'r achos democrataidd clir dros y trosglwyddiad, gan ddatgan bod methiant San Steffan i weithredu yn cryfhau'r achos dros annibyniaeth. Maent yn tynnu sylw at y cynnydd sylweddol mewn cefnogaeth i Gymru annibynnol, o tua 5% cyn refferendwm yr Alban yn 2014 i 41% yn yr arolwg barn diweddaraf, a gynhaliwyd ym mis Ebrill.
Dywedodd Cyfarwyddwr YesCymru, Rob Hughes:
"Mae Cymru wedi cael ei hanwybyddu a'i thanbrisio am llawer rhy hir. Y cyfan rydyn ni'n galw amdano yw tegwch, a phan gaiff hynny ei wrthod, mae mwy a mwy o bobl yn gweld annibyniaeth fel yr unig ffordd ymlaen."
Mae'r llythyr hefyd yn amlinellu parodrwydd YesCymru i ymgysylltu'n adeiladol â Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol, nid yn unig ar drosglwyddo Ystâd y Goron ond hefyd ar baratoi'r ffordd ar gyfer refferendwm democrataidd ar annibyniaeth Cymru.
Cyngor Torfaen oedd yr awdurdod lleol olaf yng Nghymru i gefnogi trosglwyddo pwerau Ystâd y Goron pan basiodd gynnig ar 10 Mehefin. Nododd hyn gonsensws hanesyddol ac unfrydol ar draws pob un o'r 22 cyngor yn ogystal â'r Senedd, yn dilyn ymgyrch genedlaethol dan arweiniad YesCymru.
Ychwanegodd Rob Hughes:
"Mae'r gefnogaeth unedig hon ledled Cymru yn dangos y gall YesCymru ddod â phobl ynghyd y tu ôl i alwad clir, a bod newid go iawn yn bosibl pan fydd lleisiau ledled y wlad yn siarad fel un."
Mae Ystâd y Goron yng Nghymru, sydd werth dros £850 miliwn, yn cynhyrchu refeniw sylweddol o dir a gwelyau môr Cymru. Ar hyn o bryd mae'r elw hwn yn mynd yn uniongyrchol i Drysorlys y Deyrnas gyfunol, heb unrhyw arian yn dod yn uniongyrchol i gymunedau Cymru.
Byddai trosglwyddo rheolaeth yr asedau hyn i Gymru, fel sydd eisoes wedi digwydd yn yr Alban, yn sicrhau bod y cyfoeth a gynhyrchir o adnoddau naturiol Cymru yn cael ei ailfuddsoddi yng Nghymru. Byddai hyn yn cefnogi economïau lleol, yn hyrwyddo datblygu cynaliadwy, ac yn helpu i adeiladu dyfodol tecach i bawb yng Nghymru.