Symud ymlaen o'r llywio

Annog Myfyrwyr ifanc i gymryd rhan mewn cystadleuaeth 'Llais Newydd i Gymru' wedi’i hysbrydoli gan Eddie Butler

Mae pobl ifanc yn cael eu hannog i gymryd rhan mewn cystadleuaeth a ysbrydolwyd gan yr arwr o fyd darlledu a rygbi, y diweddar Eddie Butler, i ysgrifennu araith orau Cymru.

Mae'r gystadleuaeth, sy’n cael ei threfnu gan YesCymru, yn agored i fyfyrwyr rhwng 16 a 18 oed ledled Cymru.

Bydd yr enillydd, sy’n ysgrifennu’r anerchiad mwyaf ysbrydoledig am annibyniaeth, yn ennill Gwobr Eddie Butler, gwobr ariannol o £500, yn ogystal â £250 i’r ysgol neu’r coleg sy’n cefnogi eu cais.

Yn ogystal â hyn, bydd yr enillydd hefyd yn cael gwahoddiad i draddodi'r araith mewn digwyddiad YesCymru.

Gellir cyflwyno areithiau hyd at 5 munud o hyd yn y Gymraeg neu’r Saesneg. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â [email protected].

Bydd ceisiadau llwyddiannus yn mynd ymlaen at rowndiau rhanbarthol ym mis Mai a chynhelir y rownd derfynol yn Theatr Soar, Merthyr Tudful ym mis Mehefin 2025.

Dywedodd Cadeirydd YesCymru, Phyl Griffiths, mai pwrpas y gystadleuaeth yw parhau ag “etifeddiaeth” Eddie Bulter a “dathlu a datblygu’r genhedlaeth nesaf o lefarwyr dawnus”.

Ganed y cyn chwaraewr rygbi rhyngwladol, y sylwebydd a'r newyddiadurwr ar 8 Mai 1957 yng Nghasnewydd. Cafodd ei addysg yn Ysgol Trefynwy cyn mynd ymlaen i Goleg Fitzwilliam, Caergrawnt, i astudio Ffrangeg a Sbaeneg.

Bu’r wythwr yn gapten ar Glwb Rygbi Pont-y-pŵl rhwng 1982 a 1985. Enillodd 16 cap i dîm cenedlaethol Cymru rhwng 1980 a 1984 a bu’n gapten yn chwech o’r gemau hynny.

Tra’n dal i chwarae i Bont-y-pŵl daeth yn athro yng Ngholeg Cheltenham am gyfnod cyn ymuno â BBC Radio Wales fel swyddog y wasg a chyhoeddusrwydd yn 1984.

Dechreuodd ei yrfa mewn newyddiaduraeth yn 1988, gan ysgrifennu ar gyfer papur The Sunday Correspondent.

Ysgrifennodd golofnau rygbi ar gyfer The Observer a The Guardian a dechreuodd sylwebu ar gemau rygbi i’r BBC ochr yn ochr â chyn fachwr Lloegr Brian Moore. Daeth yn llais amlwg ym myd rygbi Cymru gyda’i ddawn dweud drawiadol. 

Pan ymddeolodd y cyn-ddarlledwr Bill McLaren, daeth yn brif sylwebydd rygbi’r BBC.

Ym mis Medi 2022 bu farw yn ei gwsg yn 65 mlwydd oed yn ystod taith gerdded elusennol ar gyfer elusen ym Mheriw.

Yn y blynyddoedd cyn ei farwolaeth, daeth yn gefnogwr angerddol dros annibyniaeth Cymru, gan draddodi araith gofiadwy mewn gorymdaith dros annibyniaeth m Merthyr Tudful yn 2019. 

Dywedodd Phyl Griffiths, Cadeirydd YesCymru:

"Roedd gan Eddie Butler ffordd feistrolgar gyda geiriau. Trwy ei lais nerthol a'i afael groyw ar iaith llwyddodd i ennyn teimlad a chynhyrfu'r enaid.

Ei eiriau yw ei etifeddiaeth ac maen nhw’n parhau i fod yn ysbrydoliaeth i ni yma yng Nghymru.

Yn YesCymru rydym yn ffodus o fod wedi cael y cyfle i ymgyrchu gydag Eddie wrth iddo roi ei gefnogaeth gadarn y tu ôl i'r achos dros annibyniaeth.

Roedd ei araith yng ngorymdaith Merthyr yn 2019 yn foment eiconig yn hanes mudiad annibyniaeth Cymru.

Yn YesCymru rydyn ni’n falch o chwarae rhan i barhau ag etifeddiaeth Eddie trwy’r gystadleuaeth hon, sydd â’r nod o ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o bobl ifanc yng Nghymru ac i ddatblygu eu talent.

Rydym yn annog pobl ifanc ledled Cymru i gymryd rhan ac i ddangos yr hyn y gallant ei wneud."

Parhau i Ddarllen

Darllen Mwy

Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Gwiriwch eich e-bost am ddolen i actifadu eich cyfrif.