Symud ymlaen o'r llywio

Ysbryd y Becca gan Hefin Wyn

Yn ôl adroddiad yn y Silurian amcangyfrifwyd bod yna dorf o 4,000 yng Nghaerfyrddin nos Fercher 9 Ionawr 1839

Cynhaliwyd rali o amgylch cofeb wreiddiol Syr Thomas Picton yng ngolau lanternau a ffaglau. Y cyfreithiwr o Fachynlleth, Hugh Williams, cynrychiolydd y Siartwyr yn y gorllewin, oedd y trefnydd. Roedd radicaliaeth yn y tir. A rhaid bod y cefnogwyr wedi teithio o bob rhan o Ddyfed. Roedd yna awch i ddiwygio’r system bleidleisio.

Ymhen pedwar mis byddai’r dollborth gyntaf yn cael ei chwalu yn Efail-wen, ar y ffin rhwng Sir Gâr a Sir Benfro, a hynny oherwydd anniddigrwydd ffermwyr oedd yn wynebu tlodi dybryd. Doedden nhw ddim am dalu toll am deithio ar hyd ffyrdd roedden nhw wedi hen arfer teithio ar eu hyd yn ddi-dâl. 

Roedd yna gannoedd wedi dilyn arweiniad Twm Carnabwth – y Becca gwreiddiol.  Dinistriwyd y dollborth ar ddau achlysur arall cyn ei gwaredu yr haf hwnnw. Roedd trigolion y Preselau yn hawlio cyfiawnder a rhyddid i deithio yn ddilyffethair. 

A phwy a ŵyr efallai fod Thomas Rees a’i gyfeillion ymhlith y 4,000 yng Nghaerfyrddin ym mis Ionawr. Roedd e’n sicr yn gyfarwydd â’r dref am ei fod yn ffefryn y ffeirie yn y sgwâr bocsio a gan amlaf yn trechu pob gwrthwynebydd.

Wedyn ar ddydd Llun, 19 Gorffennaf 1843, amcangyfrifwyd bod 3,000 o Fecaod wedi gorymdeithio i’r dref o ardaloedd Cynwyl, Talog, Abernant, Cilrhedyn a’r cyffiniau, yn un dorf swnllyd ar ôl crynhoi ynghyd wrth dafarn Yr Arad a’r Oged yn Henfwlch, - i’r gorllewin o’r dref. 

Enwyd Meic Bowen, Cwmlleinioge Isaf, Tre-lech;  John Harries, Y Felin, Talog a’r brodyr Rees, Rhydymarchog, Llanewydd ymhlith yr arweinwyr. Ymosodwyd ar y wyrcws gan gyhoeddi’n groch nad oedd atal ymgyrch y Becca dros gyfiawnder cymdeithasol bellach. 

Sawl mil fydd yn bresennol yng Nghaerfyrddin ddydd Sadwrn, 22 Mehefin, 2024 dros 180 o flynyddoedd yn ddiweddarach? A gyhoeddir yn groch nad oes atal yr ymgyrch dros annibyniaeth i Gymru mwyach? A fydd ysbryd y Siartwyr a’r Becca yn cyniwair? Pwy yw’r arweinwyr cyfoes?

Gwasgwch yma am fanylion llawn Gorymdaith Annibyniaeth Caerfyrddin, 22 Mehefin

Parhau i Ddarllen

Darllen Mwy

Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Gwiriwch eich e-bost am ddolen i actifadu eich cyfrif.