Rydym yn edrych ymlaen at groesawu pawb i’r Orymdaith dros Annibyniaeth yn Aberystwyth ar ddydd Sadwrn 26 Medi 2026.
Fel arfer, bydd yn ddiwrnod addas i deuluoedd, yn llawn egni cadarnhaol, lliw a gobaith – felly peidiwch ag anghofio’ch baneri, placardiau, posteri a’ch chwibanau!
DYDDIAD: Dydd Sadwrn 26 Medi 2026
AMSER: 1pm - yr orymdaith yn cychwyn. (Cwrdd o 11am)
LLE: Gerddi’r Castell, Aberystwyth

LLWYBR YR ORYMDAITH
Tua Milltir. Gerddi’r Castell > Y Stryd Fawr > Sgwâr Owain Glyndŵr > Ffordd y Môr > Glan y Môr > Rhodfa Newydd > Gerddi’r Castell

RALI ANNIBYNIAETH - Yn dilyn yr Orymdaith
Ar ôl yr orymdaith, cynhelir rali yng Ngerddi'r Castell Aberystwyth. Bydd llwyfan a sgrin fawr, areithiau, a cherddoriaeth fyw.
MC: Siôn Jobbins
Siaradwyr: Rhun ap Iorwerth AS (Prif Weinidog Cymru), Linda Rogers (Y Blaid Werdd), Elwyn Vaughan AS (Plaid Cymru), Rob Hughes (Cadeirydd YesCymru), Hywel Griffiths (Prifardd), Bethany Davies a Cerys Hutin
Bandiau Llwyfan: Dros Dro, Connemara
Perfformwyr a Bandiau'r Orymdaith: Samba Drwm, Bagad Bro Ystwyth, Clocswyr Seithennyn, Accordions Dros Annibyniaeth, Merched Beca

MARCHNAD ANNIBYNIAETH
Bydd “Marchnad Annibyniaeth” yn cael ei chynnal yng Ngerddi’r Castell rhwng 10am a 4pm. Bydd mudiadau’n hyrwyddo eu hachosion a digonedd o nwyddau annibyniaeth ar gael.

ADLONIANT ANNIBYNIAETH
Gig Noswyl yr Orymdaith gyda Gwilym Bowen Rhys
Llew Du, Aberystwyth
7pm, nos Wener 25 Medi 2026
Am ddim!

Sesiwn Werin - Croeso i bawb!
Llew Du, Aberystwyth
4pm–8pm, dydd Sadwrn 26 Medi 2026
Am ddim!

Gig yr Orymdaith gyda Dros Dro + Steff Bwca
Y Cwps, Aberystwyth
8pm, nos Sadwrn 26 Medi 2026
Mynediad £7

NEWYDDION
- Aberystwyth i Gynnal Gorymdaith Annibyniaeth Gyntaf YesCymru yn y Canolbarth
- Castell Aberystwyth fydd lleoliad yr Orymdaith nesaf dros Annibyniaeth
- Mwyafrif dros Annibyniaeth o Fewn Cyrraedd - Arolwg Barn Newydd
CYRRAEDD ABERYSTWYTH
Rydym yn annog pawb i gyrraedd Aberystwyth erbyn 11am-12pm os yn bosibl, ac i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus lle bo modd.
Defnyddiwch cynlluniwr taith traveline.cymru i weld y manylion llawn.
TRENAU


BYSIAU




TOILEDAU CYHOEDDUS
I'w gadarnhau