Symud ymlaen o'r llywio

Pennod 10

Amddiffyn

Un o brif swyddogaethau unrhyw lywodraeth yw amddiffyn ei dinasyddion. Mae hyn yn golygu llawer mwy na chael awyrlu a llongau cludo awyrennau; mae hefyd yn golygu ein diogelu rhag niwed, ar ba bynnag ffurf y daw – boed yn fygythiad milwrol, yn drychineb a wnaed gan ddyn neu’n drychineb naturiol. Felly’r cwestiwn cyntaf i’w ofyn yw: ‘Rhag beth mae angen amddiffyn Cymru?’

Gellir dadlau bod Cymru wedi’i lleoli yn un o rannau mwyaf diogel y byd; go brin y bydd unrhyw wlad dramor yn ymosod ar Gymru nac yn ei meddiannu. Y perygl diogelwch mwyaf i Gymru yw ein cysylltiad â pholisi tramor y Deyrnas Gyfunol – bydd annibyniaeth yn ein gwneud yn fwy diogel. Ymysg peryglon diogelwch eraill a allai wynebu Cymru ar ôl annibyniaeth fyddai materion yn ymwneud â newid hinsawdd, fel llifogydd, erydu arfordirol, tanau coedwig a thywydd eithafol.

Mae gan y fyddin rôl i’w chwarae wrth gefnogi polisi tramor hefyd. Mae hynny’n cynnwys ymladd, ond mae yr un mor debygol o fod yn cynnwys cenhadaeth heddwch, cynnig cymorth mewn cyfnodau o drychinebau, gwasanaeth chwilio ac achub, patrolau i orfodi rhwymedigaethau polisi pysgodfeydd, yn ogystal â dyletswyddau gwrth-smyglo a gwrthderfysgaeth. Crybwyllwyd sefydlu “Academi Heddwch” ar gyfer Cymru yn seiliedig ar fodelau Fflandrys a Chatalonia; fe allen ni hefyd ddilyn esiampl Iwerddon gan sefydlu canolfan ragoriaeth ar gyfer hyfforddi personél milwrol ar gyfer gwaith dyngarol a chadw heddwch.

Mae’n gwbl bosibl i genedl fodoli heb fyddin. Nid oes gan Costa Rica, sydd â phoblogaeth o 4.5 miliwn, luoedd arfog ers 1949, na chwaith Wlad yr Iâ, ers 1869. Pe bai Cymru’n dewis cael byddin, sut un fyddai honno, a faint fyddai’n ei gostio?

Os byddwn yn penderfynu dilyn esiampl Iwerddon a sefydlu ‘Lluoedd Amddiffyn Cymru’, byddai’n debygol o gael strwythur gorchymyn sengl yn cynnwys byddin, a gwasanaethau llynges ac awyrlu, gyda’r pwyslais ar luoedd byddin gyffredin. Byddai’r rhain yn gallu galw ar gefnogaeth milwyr wrth-gefn, gyda niferoedd ‘Lluoedd Amddiffyn Cymru’ yn debygol o fod rhwng 5,000 a 7,000. Mae’n bwysig cofio bod gwariant milwrol y Deyrnas Gyfunol (y pen) yn wythfed yn y byd.

Serch hynny, nid oes yr un gatrawd filwrol wedi ei chartrefu yng Nghymru er gwaethaf honiad llywodraeth y Deyrnas Gyfunol ei bod yn gwario £1.9 biliwn y flwyddyn ar y fyddin yng Nghymru. Mae hyn yn fwy na’r swm sy’n cael ei wario ar ein cyfundrefn addysg bob blwyddyn (£1.8 biliwn yn 2019/20). Mae dros bum gwaith cymaint â’r cyfanswm sy’n cael ei wario ar yr heddlu yng Nghymru (£365 miliwn). O gymharu, mae Iwerddon yn gwario swm sy’n gyfwerth â £140 y pen ar amddiffyn. Pe bai Cymru’n gwario swm tebyg y pen, byddai’n cyfateb i £430 miliwn y flwyddyn – llawer is na £1.9 biliwn.

Anfon milwyr i faes y gad yw un o brif gyfrifoldebau a phenderfyniadau unrhyw wleidydd. Fodd bynnag, mae gan Brif Weinidog y Deyrnas Gyfunol bwerau i fynd i ryfel heb gymeradwyaeth seneddol. Gallai Cymru annibynnol osod cyfyngiadau cyfansoddiadol ar allu gwleidyddion i anfon milwyr i ryfel. O ran diogelwch mewnol, mae’r Deyrnas Gyfunol yn cadw mwy o wyliadwriaeth ar ei dinasyddion na bron bob gwladwriaeth arall. Mae dinasyddion Prydain yn byw eu bywydau beunyddiol o dan lygaid mwy o gamerâu teledu cylch cyfyng nag unrhyw wlad arall yn Ewrop. Mae Deddf Pwerau Ymchwilio 2016 – a elwir yn ‘Siarter Busnesu’ – yn caniatáu pwerau eang i’r llywodraeth weld ein gweithgareddau ar-lein. Byddai Cymru annibynnol yn gallu ymgorffori hawl i breifatrwydd yn ei chyfansoddiad, gan gyfyngu ar allu llywodraethau’r dyfodol i amharu ar fywydau preifat pobl.

 

Y Bennod Flaenorol

 

Y Bennod Nesaf

Cymru, y byd a Brexit   Mewnfudo a Chenedligrwydd

Parhau i Ddarllen

Darllen Mwy

Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Gwiriwch eich e-bost am ddolen i actifadu eich cyfrif.