Symud ymlaen o'r llywio

Pennod 9

Cymru, y byd a Brexit

Ychydig iawn o ddylanwad sydd gan Gymru ar faterion byd-eang ar hyn o bryd. Ar y llwyfan rhyngwladol, llywodraeth San Steffan sy’n siarad ar ran y Deyrnas Gyfunol gyfan. Gan mai Lloegr yw 84 y cant o boblogaeth y Deyrnas Gyfunol, anghenion Lloegr sy’n gyrru ein trafodaethau a’n perthynas â gwledydd eraill. Gwelsom hyn eisoes yn ystod trafodaethau Brexit: ym mis Ionawr 2017, datgelwyd bod llywodraeth Prydain yn ystyried mai blaenoriaeth isel yw’r diwydiant dur yn nhrafodaethau masnach y dyfodol. Nid yw’n bwysig i Loegr, ac felly caiff ei anfon i gefn y ciw.

Rydyn ni wedi gweld hyn hefyd wrth ddatblygu’r polisi mewnfudo ar gyfer y cyfnod ar ôl Brexit. Mae Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol wedi gosod trothwy incwm ar gyfer darpar fewnfudwyr, a hynny ar sail cyflogau cyfartalog sydd wedi’u camliwio gan lefelau de Lloegr. Yng Nghymru, mae meysydd fel gofal cymdeithasol, lletygarwch, y GIG a’r diwydiant bwyd wedi dibynnu ar weithwyr mudol i lenwi bylchau llafur, ond mae’r polisi mewnfudo wedi creu sefyllfa lle mae’r sectorau allweddol hyn yn wynebu ansicrwydd y gellid bod wedi’i osgoi’n llwyr.

Cymru annibynnol y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd

Beth bynnag fo’ch barn am yr Undeb Ewropeaidd, annibyniaeth yw’r unig ffordd i sicrhau bod gan Gymru berthynas â’r Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol ar ôl Brexit. Os oes rhaid inni lunio cytundebau masnach newydd, mae angen i’r cytundebau hyn fod yn rhai sy’n ffafriol i Gymru. Nid oes modd ymddiried yn llywodraeth Prydain i roi economi Cymru yn gyntaf. Ei blaenoriaeth hi yw diogelu’r banciau a’r gwasanaethau ariannol, sydd â’u swyddfeydd a’u pencadlysoedd yn ne-ddwyrain Lloegr. Ni fydd diwydiannau Cymru’n agos at frig rhestr Llundain wrth drafod cytundebau masnach.

Gallai Cymru annibynnol (y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd) lunio ei chytundebau ei hun, gan olygu y gallai frwydro am setliad teg ar gyfer y rhannau hynny o’r economi sy’n bwysig i ni.

Mynediad i’r farchnad sengl heb fod yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd

Fe allen ni ddilyn esiampl y Swistir neu Norwy a thalu i gael mynediad i’r farchnad sengl (naill ai’r tu mewn i Gymdeithas Masnach Rydd Ewrop (EFTA) neu’r tu allan iddi). Fe allen ni hefyd drafod ein cytundeb masnach rydd ein hunain â’r Undeb Ewropeaidd.

Ailymuno â’r Undeb Ewropeaidd

Dewis arall fyddai i Gymru annibynnol gynnal refferendwm ar fod yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd, ac yn ddibynnol ar y canlyniad, fe allen ni wneud cais i ailymuno drwy gyfrwng Erthygl 49 Cytundeb Lisboa. Byddai’n rhaid i Gymru dderbyn bod gan bobl ryddid i symud a byddai’n rhaid iddi gyfrannu at gyllideb flynyddol yr Undeb Ewropeaidd; ond yn 2016, amcangyfrifodd papur gan Brifysgol Caerdydd fod Cymru’n cael £245 miliwn yn fwy gan yr Undeb Ewropeaidd nag oedd yn ei dalu o dan drefniant aelodaeth y Deyrnas Gyfunol. Ni fyddai’r broses yn un hawdd, ond y ffaith yw bod rhaid i Gymru annibynnol wneud ei phenderfyniadau ei hun am ei lle yn y byd.

Pa bynnag ffordd y pleidleisioch chi yn refferendwm yr Undeb Ewropeaidd, y ffaith yw mai’r ffordd orau i ddiogelu buddiannau Cymru yw sicrhau bod gan Gymru sedd wrth y byrddau trafod byd-eang, i ddadlau achos Cymru yn y byd. Fel y gwelson ni’n ddiweddar, efallai’n fwy eglur nag erioed: yn hytrach na bod yn “gryfach gyda’n gilydd” yn y Deyrnas Gyfunol, aiff llais Cymru ar goll yn llwyr wrth drafod y berthynas â’r Undeb Ewropeaidd a gwledydd eraill.

 

Y Bennod Flaenorol

 

Y Bennod Nesaf

Cyfansoddiad i Gymru   Amddiffyn

Parhau i Ddarllen

Darllen Mwy

Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Gwiriwch eich e-bost am ddolen i actifadu eich cyfrif.