Symud ymlaen o'r llywio

Pennod 11

Mewnfudo a Chenedligrwydd

Fel cenedl annibynnol, Cymru fyddai’n penderfynu pwy a allai groesi ein ffiniau, boed i fyw yma dros dro (wrth astudio mewn prifysgol, er enghraifft), neu i roi bywyd newydd i’w hunain a’u teuluoedd. Fe allen ni ddewis ffin galed, ond nid dyma’r unig opsiwn, ac ni fyddai annibyniaeth yn golygu bod angen gwarchodwyr ar Bont Hafren.

Mae Iwerddon yn annibynnol ers 1922, ond pan fyddwch chi’n gadael y fferi yn Nulyn neu Rosslare nid oes angen i chi ddangos eich pasbort. Mae’r Deyrnas Gyfunol a Gweriniaeth Iwerddon wedi cytuno ar Ardal Deithio Gyffredin (CTA) sy’n caniatáu i ddinasyddion y ddwy wlad deithio fel y mynnan nhw. Yn 2019, cytunodd llywodraethau Prydain ac Iwerddon ar femorandwm cyd-ddealltwriaeth i gadw’r CTA ar ôl Brexit. Byddai Cymru annibynnol, fel Alban annibynnol, yn debygol o gael cynnig yr un fargen ag Iwerddon.

Yn y pen draw, byddai mewnfudo yn fater i lywodraeth Cymru ar ôl annibyniaeth, a byddai ganddi’r gallu i wneud penderfyniadau sy’n iawn i bobl Cymru. Gallai hyn olygu gwneud cytundeb gyda gweddill y Deyrnas Gyfunol, a chytuno ar bolisi mewnfudo cyffredin. Neu gallai hefyd olygu ffurfio cytundebau annibynnol gyda gweddill y byd o ran pwy a all fyw a gweithio yng Nghymru. 

Gallwn osgoi digwyddiadau erchyll fel y ffordd y cafodd cenhedlaeth Windrush ei thrin gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, a hynny drwy gefnu ar y polisi “Amgylchedd Gelyniaethus” sy’n bwlio pobl er mwyn eu darbwyllo i beidio â mudo. Byddai Cymru mewn sefyllfa dda i ddatblygu dull gwaraidd o ymdrin â mewnfudo a lloches, gyda thegwch a pharch yn ganolog i hynny. 

Y pwynt allweddol yw mai pobl Cymru fyddai’n penderfynu ar bolisïau ymweld, mewnfudo a dinasyddiaeth, a hynny, fel popeth arall, ar sail anghenion Cymru.

 

Y Bennod Flaenorol

 

Y Bennod Nesaf

Amddiffyn   Ond beth am......?

Parhau i Ddarllen

Darllen Mwy

Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Gwiriwch eich e-bost am ddolen i actifadu eich cyfrif.