Symud ymlaen o'r llywio

Pennod 12

Ond beth am......?

Bydd y syniad o annibyniaeth yn apelio at nifer o bobl, ond mae nifer yn poeni fod hyn fel cadw’r brych a thaflu’r babi! Mae adeiladu democratiaeth newydd yn swnio’n gyffrous, ond y gofid i’r rhan fwyaf o bobl yw y gallai hyn droi eu bywydau wyneb i waered dros nos.

A fyddwn ni’n dal i allu gwylio’r un rhaglenni teledu a radio?

Fel y dywed y byrfoddau Saesneg, corfforaeth Brydeinig yw’r BBC. Caiff eich arian trwydded ei gasglu gan yr Adran Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon yn Llundain, ac yna’i drosglwyddo i’r BBC i gyllido’r rhaglenni. Bwrdd Unedol y BBC yn Llundain sy’n penderfynu sut y caiff yr arian hwnnw ei rannu i’r gwahanol genhedloedd a rhanbarthau. Mae pedwar ar ddeg o aelodau ar y bwrdd hwn, a dim ond un sy’n cynrychioli Cymru.

Pe bai Cymru’n annibynnol, gallai’r BBC benderfynu peidio â darparu gwasanaethau ar gyfer gwylwyr a gwrandawyr yng Nghymru. Pe digwyddai hyn, byddai’n rhaid i Lywodraeth Cymru benderfynu beth a allai lenwi’r bwlch – o bosib sefydlu Gwasanaeth Darlledu i Gymru. Os na fyddai’r BBC yn darparu gwasanaeth i Gymru, yna byddai’n colli’r incwm o’r drwydded yng Nghymru. Canlyniad llawer mwy tebygol yw y gellid diwygio’r BBC o dan drefniant ffederal. Byddai BBC Cymru yn datblygu’n endid cyfreithiol ar wahân, gan weithio’n gyfochrog gyda BBC Lloegr, BBC yr Alban ac o bosib Gogledd Iwerddon i ddarparu gwasanaeth a fydd yn adlewyrchu dyheadau gwahanol y pedair cenedl.

Byddai’r cyfrifoldeb dros S4C yn trosglwyddo o lywodraeth y Deyrnas Gyfunol i Lywodraeth Cymru. Ni fyddai llawer o effaith ar deledu masnachol. Mae Sky ar gael yng ngweriniaeth Iwerddon ac felly hefyd Virgin Media. Mae modd cael gwasanaethau teledu BT hefyd drwy wasanaeth Eir Sport Iwerddon. Does dim rheswm ymarferol pam na all unrhyw un o’r gwasanaethau hyn (neu wasanaethau’r dyfodol) fod ar gael mewn Cymru annibynnol. Byddai cyfle hefyd i ddatblygu mwy o gyfryngau wedi’u seilio yn y gymuned a chyfryngau nid-er-elw er mwyn mynd i’r afael â’r diffyg dybryd a geir ar hyn o bryd yn narpariaeth newyddion sy’n benodol i Gymru.

Beth fyddai’n digwydd i dimau chwaraeon Cymru?

Mae Cymru eisoes yn “annibynnol” mewn nifer o chwaraeon – yn arbennig rygbi a phêl-droed – ac mae gennyn ni draddodiad cryf ym meysydd bocsio a beicio. Byddai annibyniaeth yn arwain at greu timau Olympaidd a Pharalympaidd, a fyddai’n golygu y gallai athletwyr o Gymru sydd ar hyn o bryd yn methu cystadlu yn y gemau Olympaidd a Pharalympaidd (oherwydd y gystadleuaeth o fewn Tîm GB) wireddu eu breuddwydion.

Y gamp fwyaf poblogaidd sy’n gwahardd Cymru fel gwlad rhag cystadlu ar y lefel uchaf yw criced. Ein bwrdd criced ni ein hunain – Criced Cymru – sy’n atal tîm criced i Gymru rhag cael ei ffurfio, a hyn er gwaetha’r ffaith y byddai cystadlu yn y cystadlaethau undydd a T20 yn rhoi hwb enfawr i’r gêm.

Gan fod Cymru eisioes yn chwarae pêl-droed yn “annibynnol”, does dim rheswm pam na allai Dinas Abertawe a Dinas Caerdydd a’r clybiau Cymreig eraill gymryd rhan ym mhyramid Lloegr ar ôl annibyniaeth os ydyn nhw’n dewis gwneud hynny.

Beth fyddai’n digwydd i gyflogwyr mawr yn y sector cyhoeddus yng Nghymru fely DVLA yn Abertawe, y Swyddfa Ystadegau yng Nghasnewydd a Chyllid a Thollau?

Gallai rhai swyddi ddiflannu wrth i adrannau leihau, ond byddai ar Gymru angen awdurdod trwyddedu cerbydau, swyddfa ystadegau gwladol ac awdurdod trethu ei hun, a llawer mwy. Gellid adleoli gweithwyr yn y sector cyhoeddus i adrannau eraill, fel fersiwn Cymru o’r Swyddfa Dramor neu’r Weinyddiaeth Amddiffyn. Mae’n debygol y byddai digon o swyddi yn cael eu creu mewn adrannau cyhoeddus newydd yn lle’r rhai a fydd yn diflannu o adrannau llai o faint.

A fydd hawl i ddefnyddio ysbytai yn Lloegr?

Os buoch chi erioed yn sâl ar eich gwyliau yn Ewrop, fe fyddwch chi’n gwybod bod gennych chi’r hawl i ddefnyddio’r un ysbytai a meddygon â’r bobl leol. Mae’r ysbyty yn cymryd eich manylion, ac yn rhoi’r bil am eich gofal i’r llywodraeth gartref. Fel y crybwyllwyd eisoes, mae’r Ardal Deithio Gyffredin (CTA) yn gwarantu hawliau gofal iechyd dwyochrog. Cyn belled â bod y CTA (neu drefniant tebyg) ar waith, bydd unrhyw un sy’n teithio yn ôl ac ymlaen rhwng Cymru a Lloegr, yn ogystal â phobl sy’n byw ar y ffin, yn cael gwarant o’u hawl i ofal iechyd ble bynnag y byddan nhw’n digwydd bod wrth gael eu taro’n wael.

Beth am fy nghyngor lleol?

Gallai Cymru annibynnol greu system wirioneddol ystyrlon ar gyfer democratiaeth leol. Gellid sicrhau amddiffynfa gyfansoddiadol i’r cynghorau i atal ymyrraeth oddi wrth y llywodraeth ganolog. Gallen nhw gael yr hawl i godi a chadw cyfran fwy o’u cyllid eu hunain, gan wario trethi lleol ar flaenoriaethau lleol. Gellid sefydlogi’r ffiniau fel nad oes mwy o ailwampio diangen. Mae annibyniaeth yn gyfle i ailddyfeisio democratiaeth Cymru.

 

Y Bennod Flaenorol

 

Y Bennod Nesaf

Mewnfudo a Chenedligrwydd   Y llwybr tuag at Annibyniaeth

Parhau i Ddarllen

Darllen Mwy

Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Gwiriwch eich e-bost am ddolen i actifadu eich cyfrif.