Y llwybr tuag at Annibyniaeth
Dim ond os bydd pobl Cymru yn dymuno hynny y gall Cymru fod yn annibynnol. Byddai’n rhaid i fwyafrif pleidleiswyr Cymru gefnogi annibyniaeth mewn refferendwm wedi’i gydnabod gan lywodraeth Cymru a llywodraeth San Steffan.
Y cam cyntaf yw ethol Llywodraeth Cymru sydd o blaid annibyniaeth. Gallai hyn fod yn blaid fwyafrifol, neu’n glymblaid sy’n cefnogi annibyniaeth. Un o’r prif bethau mae angen i ni ei wneud yw ceisio darbwyllo ein pleidiau gwleidyddol fod hwn yn syniad sydd yn werth ymladd drosto. Ar hyn o bryd, dim ond un blaid wleidyddol fawr sy’n cefnogi annibyniaeth i Gymru, ond does dim rheswm pam na ddylai rhai eraill wneud hynny. Mae cefnogwyr YesCymru yn cynrychioli ystod eang o bleidiau gwleidyddol ac mae cyfle i aelodau ddylanwadu ar bolisïau’r pleidiau hyn.
Mae annibyniaeth i Gymru yn gyfle i ddatblygu democratiaeth fodern, sy’n well, sy’n fwy effeithlon ac sy’n fwy atebol. Dyma achos y dylai gwleidyddion o bob plaid ei gefnogi. Does dim rheswm pam na ddylai aelodau o nifer o bleidiau gwleidyddol gefnogi annibyniaeth. Mae annibyniaeth yn ymwneud â chreu democratiaeth sy’n gweithio i bobl Cymru, er mwyn helpu i greu Cymru newydd addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. Mae hwn yn achos y dylai pob un ohonon ni allu ei gefnogi.
Unwaith bydd y dadleuon wedi’u cyflwyno’n glir ac yn agored i’w trafod, gallwn ddechrau cynllunio ar gyfer annibyniaeth.
Er mai’r ffordd amlycaf o sicrhau annibyniaeth yw drwy refferendwm, nid oes gan Gymru ar ei phen ei hun y pŵer i alw refferendwm annibyniaeth. Byddai’n rhaid i San Steffan gytuno, a phasio deddfwriaeth sy’n awdurdodi refferendwm. Ond pe bai mwyafrif aelodau Senedd Cymru yn pasio cynnig yn galw am refferendwm, byddai’n anodd iawn i Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol wrthod.
Byddai trafodaethau rhwng llywodraeth Cymru a llywodraeth Prydain yn arwain at gyflwyno bil refferendwm yn San Steffan. Y Comisiwn Etholiadol fyddai’n gyfrifol am oruchwylio manylion fel geiriad y cwestiwn, sut byddai’r ymgyrch yn cael ei chynnal, a phwy fyddai’n gallu pleidleisio. Byddai pobl Cymru yn pleidleisio, gan benderfynu naill ai aros fel rhan o’r Deyrnas Gyfunol neu adael.
Os bydd pleidlais o blaid annibyniaeth mewn refferendwm, ni fyddai Cymru’n dod yn wlad annibynnol ar unwaith. Byddai’n rhaid trefnu confensiwn cyfansoddiadol. Byddai’n rhaid i’r ddwy lywodraeth ddechrau trafodaethau ac mae’n debygol y byddai cyfnod pontio. Byddai angen i lywodraeth Cymru benderfynu pa fath o berthynas fyddai rhyngddi a gweddill gwledydd Prydain, ynghyd â gweddill y byd. Rhwng popeth, gallai sawl blwyddyn fynd heibio cyn cwblhau’r broses. Yn 2013, amcangyfrifodd Llywodraeth yr Alban y byddai angen tua dwy flynedd i gwblhau’r broses annibyniaeth, a chaniataodd Erthygl 50 Cytundeb Lisboa ddwy flynedd i’r Deyrnas Gyfunol gyd-drafod telerau ei hymadawiad o’r Undeb Ewropeaidd.
Pan fyddai’r holl drafodaethau wedi’u cwblhau, byddai angen i Gymru gynnal etholiadau. Byddai llywodraeth newydd yn cael ei hethol o dan delerau cyfansoddiad newydd a byddai Cymru, o’r diwedd, yn sefyll ochr yn ochr â chenhedloedd rhydd eraill y byd.
Y Bennod Flaenorol |
Y Bennod Nesaf |
|
Ond beth am......? | Sut alla’ i helpu i wireddu hyn? |