Symud ymlaen o'r llywio

Pennod 15 - Sut Gallaf Fi Helpu i Wireddu Hyn?

Nod YesCymru yw sicrhau annibyniaeth i Gymru er mwyn gwella’r ffordd y caiff ein gwlad ei llywodraethu. Rydyn ni’n credu mewn dinasyddiaeth gynhwysol, sy’n croesawu ac yn dathlu pawb sy’n dewis gwneud Cymru yn gartref – beth bynnag fo’u cefndir – yn ddinasyddion llawn mewn Cymru newydd. Os ydych chi’n cefnogi’r nod hwn, dyma sut gallwch chi helpu:

  • Rhannwch y llyfryn hwn â phobl eraill. Mae copi PDF rhad ac am ddim ar gael ar-lein yn cy.yes.cymru/annibyniaeth
  • Ymunwch â YesCymru! Gallwch ymaelodi’n rhwydd ar-lein yn cy.yes.cymru/ymaelodi
  • Dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol a rhannwch ein cynnwys (dolenni isod).
  • Ymunwch â gweithgaredd lleol drwy ymuno ag un o’r nifer cynyddol o grwpiau YesCymru. Os nad oes un yn eich ardal chi, beth am ddechrau un? cy.yes.cymru/grwpiau.
  • Lledwch y gair drwy rannu taflenni yn eich cymuned, trefnu stondinau stryd a threfnu cyfarfodydd cyhoeddus. Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth.
  • Cysylltwch â’ch cynrychiolwyr etholedig, ac os ydych yn aelod o blaid wleidyddol, cofiwch eu lobïo ynglŷn â hyn.
  • Yn bwysicaf oll, siaradwch am annibyniaeth gyda’ch ffrindiau, eich teulu a chydweithwyr. Gyda’n gilydd, gallwn wneud gwahaniaeth.

Cysylltwch:

Parhau i Ddarllen

Darllen Mwy