Ffurfio Democratiaeth Gadarn
Yn 1997, pleidleisiodd pobl Cymru o blaid datganoli, gan arwain at greu Cynulliad Cymru (sydd bellach yn Senedd Cymru) yn 1999. Yn 2011, rhoddodd refferendwm arall ragor o bwerau deddfu i’r Senedd.
Fodd bynnag, nid yw datganoli yn barhaol. Senedd y Deyrnas Gyfunol a greodd Senedd Cymru a gallai, mewn theori, gipio ei phwerau oddi arni. Er y byddai angen refferendwm i ddod â datganoli i ben yn ffurfiol,[59] mae Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol eisoes wedi gwanhau pwerau Cymru, er enghraifft drwy’r Ddeddf Marchnad Fewnol ar ôl Brexit.
Mae’r Deyrnas Gyfunol yn un o blith nifer fach o wledydd y byd sydd heb gyfansoddiad ysgrifenedig. Yn hytrach, mae ei system wleidyddol yn seiliedig ar benderfyniadau a wnaed ganrifoedd yn ôl, yn bennaf gan osodwyr cyfraith o Loegr. Mewn gwrthgyferbyniad, mae cenhedloedd annibynnol yn drafftio eu cyfansoddiad eu hunain er mwyn diffinio’r ffordd y cânt eu llywodraethu ac i ddiogelu hawliau dinasyddion.
Byddai cyfansoddiad i Gymru yn diogelu democratiaeth Cymru yn barhaol, gan sicrhau bod penderfyniadau am Gymru yn cael eu gwneud yng Nghymru. Byddai hefyd yn gwarantu hawliau sylfaenol megis rhyddid mynegiant, preifatrwydd, a’r hawl i ymgynnull, ac yn diogelu pobl rhag gweithredu gorymestyn ar ran y llywodraeth.
Amrywiaeth a Chynhwysiant
Byddai cyfansoddiad i Gymru yn gyfle i sicrhau tegwch i bawb. Mae llawer o grwpiau – yn cynnwys menywod, pobl anabl, unigolion LGBTQ+, a phobl liw – wedi gwneud cyfraniadau hollbwysig i Gymru ond yn aml, maen nhw wedi cael eu hesgeuluso. Mae annibyniaeth yn rhoi cyfle i gydnabod anghyfiawnderau’r gorffennol ac ymrwymo i ddyfodol tecach.
Mae’r system cyfiawnder troseddol yn un maes y byddai angen ei ddiwygio. Mae cyfradd carcharu Cymru ymhlith y rhai uchaf yng Ngorllewin Ewrop, ac mae pobl liw yn cael eu heffeithio i raddau anghymesur.[60] Byddai cyfansoddiad i Gymru yn gallu sicrhau ymdriniaeth deg gan heddluoedd ac mewn ymchwiliadau troseddol, gan fynd i’r afael â chamwahaniaethu a chamddefnyddio pwerau.
Hawliau Sylfaenol
Byddai annibyniaeth yn caniatáu i Gymru osod ei seiliau cyfreithiol ei hun. Mae gan lawer o wledydd gyfansoddiad modern sy’n gwneud mwy na diogelu elfennau o ryddid sylfaenol ac sy’n cynnwys hawliau sy’n gwella safonau byw. Gallai cyfansoddiad i Gymru ymgorffori:
- Yr hawl i ofal iechyd ac addysg yn ddi-dâl.
- Yr hawl i gartref gweddus, gan ei gwneud yn ofynnol i lywodraethau’r dyfodol weithio tuag at roi terfyn ar ddigartrefedd.
- Diogelu’r Gymraeg mewn modd tebyg i’r darpariaethau iaith yng nghyfansoddiad y Ffindir,[61] gan sicrhau bod dyletswydd gyfreithiol ar bob llywodraeth i hyrwyddo a diogelu’r iaith.
Drafftio Cyfansoddiad i Gymru
Petai Cymru yn pleidleisio dros annibyniaeth, byddai’r broses o lunio cyfansoddiad yn dechrau yn ystod y cyfnod trosiannol tra byddai llywodraethau Cymru a’r Deyrnas Gyfunol yn trafod telerau annibyniaeth.
Mae gwahanol ffyrdd posib o ddrafftio cyfansoddiad. Gallai Cymru sefydlu confensiwn cyfansoddiadol a fyddai’n cynnwys ymhlith ei aelodau arbenigwyr, grwpiau dinesig, ac aelodau o’r cyhoedd. Dull arall fyddai proses “cyfrannu torfol”, fel yr hyn a welwyd yng Ngwlad yr Iâ yn 2011.[62] Dewis arall fyddai gadael i’r Senedd ymgymryd â’r dasg.
Pan fydd cyfansoddiad wedi’i lunio, mae’n dueddol o fod yn anodd ei newid. Mae angen refferendwm mewn rhai gwledydd er mwyn diwygio’r cyfansoddiad, neu mewn gwledydd eraill, mae’n rhaid cael uwchfwyafrif mewn pleidlais yn y senedd (dau draean o’r aelodau fel arfer). Byddai angen i Gymru benderfynu ar ei rheolau ei hun ar gyfer gwneud newidiadau i’w chyfansoddiad newydd.
Sylfaen Barhaol i Ddemocratiaeth Cymru
Byddai cyfansoddiad ysgrifenedig yn diogelu democratiaeth Cymru ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Byddai’n gosod cyfraith Cymru ar sylfaen gadarn, annibynnol ac yn sicrhau mai pobl Cymru yn unig fydd â’r gallu i benderfynu ar newidiadau i’w hawliau a’u llywodraeth.
[59] Wales Act 2017, Part 1, Section 1.
[60] Dr Robert Jones, Cardiff University (October 2024). “Prisons & Sentencing in Wales”. Quote: “The ‘in-country’ imprisonment rate in Wales continues to far exceed the level recorded in any other country in western Europe.”
[61] Constitution of Finland (1999), Chapter 2, Article 17 - “Right to one’s language and culture”.
[62] Popescu, D. & Loveland, M., (2022) “Judging Deliberation: An Assessment of the Crowdsourced Icelandic Constitutional Project”, Journal of Deliberative Democracy 18(1).