Symud ymlaen o'r llywio

Pennod 4 - Pam Nad Yw Datganoli’n Ddigon a Pha Wahaniaeth Fyddai Annibyniaeth yn ei Wneud?

Ers 1999, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gyfrifol am feysydd polisi sy’n cynnwys iechyd, addysg, llywodraeth leol, datblygu economaidd, a’r Gymraeg. Felly pam mae angen annibyniaeth? Allwn ni ddim gweithio gyda’r gyfundrefn fel y mae hi?

Er bod datganoli yn gam ymlaen, mae diffygion sylfaenol yn y gyfundrefn bresennol. Mae gan Lywodraeth Cymru rai pwerau, ond mae’r rhain yn aml yn cael eu cyfyngu gan San Steffan. Er enghraifft, ers 2019, mae Cymru wedi gallu amrywio cyfraddau treth incwm ond nid yw’n gallu gosod bandiau treth incwm.

Yn wir, mae rhestr o 193 o feysydd lle nad yw’r Senedd yn gallu gwneud cyfreithiau neu benderfyniadau.4 Mae hynny’n cynnwys pob math o bethau, o ddiogelwch cenedlaethol i feysydd annisgwyl, fel masnachu ar y Sul a hofrenfadau. Nid yw Cymru yn rheoli ei llysoedd ei hun, ei charchardai, na’i gwasanaethau prawf, ac nid yw’n rheoli ei chyflenwad dŵr ei hun hyd yn oed. Mae gan Faer Manceinion Fwyaf fwy o reolaeth dros blismona na Chymru.

Brêc Llaw Datganoli

Mae llawer yn dadlau bod rhagor o ddatganoli yn well dewis nag annibyniaeth lawn. Ond pan maen nhw’n cael y cyfle, mae llawer o Aelodau Seneddol Cymru yn pleidleisio yn erbyn datganoli rhagor o bwerau i’r Senedd – ac mae canlyniadau difrifol i hynny.

Mae’r diffyg pwerau dros seilwaith rheilffyrdd – a fyddai wedi gallu cael eu datganoli i Gymru yn 2005 – wedi costio oddeutu £4 biliwn o gyllid ychwanegol fyddai wedi dod i Gymru drwy Fformiwla Barnett.5 Mae hynny oherwydd bod HS2 wedi ei gategoreiddio yn brosiect “Lloegr a Chymru” gan Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol, er nad oes yr un fodfedd o’r trac yn dod yn agos at Gymru.

Mae penderfyniadau ynglŷn â chynhyrchu ynni yn cael eu gwneud yn San Steffan hefyd oherwydd nad ydy Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol yn ymddiried yng Nghymru i wneud y penderfyniadau hynny. Ystad y Goron sy’n rheoli rhai o’r rhannau mwyaf gwerthfawr o dir ac arfordir Cymru a ddefnyddir ar gyfer prosiectau ynni adnewyddadwy.

Rhaid i unrhyw brosiect ynni dros 350 MW gael ei gymeradwyo gan Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol. Yn y cyfamser, rhoddodd y rownd ddiweddaraf o brydlesau ar gyfer ynni gwynt ar y môr hwb gwerth dros £650 miliwn i elw Ystad y Goron yn 2023-24.6

Mae penderfyniadau San Steffan yn effeithio arnom y tu hwnt i’r hyn sy’n digwydd yn fewnol yng Nghymru – maen nhw’n clymu Cymru at bolisïau tramor y gallen ni fod yn anghytuno â nhw. O’r rhyfel yn Irac yn 2003 i werthu arfau i lywodraethau sy’n cael eu cyhuddo o droseddau yn erbyn hawliau dynol, does gan Gymru ddim llais yn y dewisiadau hyn.

Mae darlledu hefyd yn cael ei reoli gan San Steffan. Yn 2019, lansiodd BBC Yr Alban ei sianel ei hun, ond cafodd Cymru y nesaf peth at ddim. Aelodau Seneddol o Loegr sy’n penderfynu ar dynged S4C ac yn cyfyngu ar gyllid ar gyfer rhaglenni Cymreig ar BBC Cymru.

System Ddryslyd Beth Mae Datganoli Wir yn ei Olygu?

Mae datganoli yn cyfyngu ar bwerau Cymru, ond mae hefyd yn ddryslyd ac yn anghyson. Mae hyd yn oed arbenigwyr cyfreithiol yn cael trafferth egluro pwy sy’n gyfrifol am beth; felly sut mae disgwyl i bleidleiswyr cyffredin ddeall? Os nad ydy pobl yn gwybod pwy sy’n atebol, sut gallan nhw ddwyn gwleidyddion i gyfrif?

Senedd y Deyrnas Gyfunol sydd â’r pŵer yn y pen draw dros Gymru drwy sofraniaeth seneddol. Mae hynny’n golygu bod modd i bwerau sydd wedi’u caniatáu i Gymru gael eu tynnu’n ôl unrhyw bryd – oherwydd, fel y mae San Steffan yn gweld pethau, “mae pŵer sydd wedi’i ddatganoli yn bŵer sydd wedi’i gadw.”

Er gwaethaf unrhyw fwriad cadarnhaol yn y broses ddatganoli, mae’r modd y mae wedi’i chynllunio’n golygu mai cyfyngedig yw’r rheolaeth sydd gan Gymru dros ei materion ei hun. Mae rhai yn dadlau y dylem ganolbwyntio ar wella datganoli – pwyso am ragor o bwerau a chyfyngu ar alluoedd San Steffan i rwystro penderfyniadau a wneir yng Nghymru.

Ond ydy hynny’n ddigon?

Byddai annibyniaeth yn rhoi llechen lân i Gymru – cyfle i greu democratiaeth sy’n eglur, yn dryloyw, ac yn atebol. Mae YesCymru yn credu mai’r ffordd orau ymlaen ydy i bob cymuned yng Nghymru uno a chymryd rheolaeth dros ein dyfodol.


4 Government of Wales Act 2006, Schedule 7A.

5 Will Hayward, The Guardian (15th October 2024). “Call it the Great Welsh Train Robbery - a £4 billion scandal in plain sight”.

6 Stephen Clear, Bangor University (12th August 2024). “Crown Estate: Why it’s time to devolve it and put Wales on a par with Scotland”.

Parhau i Ddarllen

Darllen Mwy