Symud ymlaen o'r llywio

Pennod 3 - Pam Nad Yw Cymru Eisoes yn Annibynnol?

Nid oes un ateb unigol i’r cwestiwn hwn – mae hanes, gwleidyddiaeth, ac economeg oll yn rhan o’r ateb.

Am ganrifoedd, roedd gan Gymru ei chyfreithiau a’i rheolwyr ei hunan, ond roedd rhaniadau mewnol a phwysau allanol yn golygu ei bod yn anodd iddi gynnal annibyniaeth. Yn wahanol i’r Alban, a gadwodd ei systemau cyfreithiol a rhai systemau gwleidyddol ar ôl Deddf Uno 1707, cafodd Cymru ei hamsugno’n raddol gan Loegr. Trwy Ddeddfau Cyfreithiau yng Nghymru (1535–1542), gorfodwyd cyfraith a gweinyddiaeth Lloegr ar Gymru, gan ei ddileu i bob pwrpas fel endid gwleidyddol ar wahân.3

Eto i gyd, goroesodd hunaniaeth a diwylliant Cymreig. Cadwodd yr iaith Gymraeg, llenyddiaeth a sefydliadau Cymreig y syniad o Gymru yn fyw – ond yn fwy na dim, cryfder a gwytnwch y bobl wnaeth sicrhau bod ein cenedl yn goroesi. Dros gyfnod, tyfodd cynrychiolaeth wleidyddol, gan arwain at ddatganoli yn 1999. Fodd bynnag, nid yw datganoli yn golygu annibyniaeth. Mae Cymru yn dal i fod heb reolaeth dros feysydd allweddol megis cyfiawnder, lles, ynni a pholisi tramor.

Mae dibyniaeth economaidd yn ffactor arall. Mae Cymru wedi’i hintegreiddio’n ddwfn yn economi’r Deyrnas Gyfunol, ond mae penderfyniadau ynglŷn â seilwaith, buddsoddi, a diwydiant wastad wedi rhoi blaenoriaeth i rannau eraill o’r Deyrnas Gyfunol, yn enwedig de-ddwyrain Lloegr. Mae hynny wedi arwain at danddatblygu economaidd a’r canfyddiad bod Cymru yn rhy fach neu’n rhy dlawd i fod yn annibynnol. Ond canlyniad i benderfyniadau a wnaed ymhell o Gymru ydy hynny, nid adlewyrchiad o’r bobl sy’n byw yma.

O graffu arnynt, dydy’r amheuon hyn ddim yn dal dŵr. Mae llawer o genhedloedd bychain wedi ennill annibyniaeth ac wedi ffynnu. Erbyn hyn, nid gofyn a all Cymru fod yn annibynnol ydy’r cwestiwn iawn, ond a ddylai barhau yn y Deyrnas Gyfunol, o ystyried pa mor anghydradd yw’r system bresennol.

Neu mewn geiriau eraill: Petai Cymru eisoes yn annibynnol, a fydden ni’n pleidleisio i ymuno â’r Deyrnas Gyfunol?


3 In modern English, the text of the 1535 Act includes the following: “Albeit the Dominion Principality and Country of Wales justly and righteously is and ever has been incorporated, annexed, united and subject to & under the Imperial Crown of this Realm (England), as a very limb and joined of the same…”

Parhau i Ddarllen

Darllen Mwy