Symud ymlaen o'r llywio

Pennod 5 - Gwneud Cymru’n Gyfoethocach

Un o’r rhesymau pennaf dros gael annibyniaeth yw’r gred y gall roi hwb i economi Cymru, ehangu’r sylfaen drethu, ac yn y pen draw, gwella ansawdd bywyd pobl yng Nghymru. Ar hyn o bryd rydyn ni’n cael ein gorfodi i ddewis rhwng torri gwariant a chodi trethi.

Mae YesCymru yn credu y bydd annibyniaeth yn galluogi Cymru i ddatgloi ei photensial economaidd llawn, gan greu economi fwy bywiog, amrywiol a hyblyg fydd yn fwy parod ar gyfer yr heriau o'n blaenau.

Fydden ni ddim ar ein pennau ein hunain yn wynebu’r heriau hyn – a fydden ni ddim yn eu goresgyn ar ein pennau ein hunain chwaith.

Rhy Fach; Rhy Dlawd

Un ddadl gyffredin yn erbyn annibyniaeth ydy bod Cymru, â’i phoblogaeth o 3.16 miliwn,7 yn “rhy fach” i fod yn annibynnol. Ond mae 18 o genhedloedd annibynnol o fewn Ewrop yn unig sydd â llai o boblogaeth. Ymhlith yr enghreifftiau, mae:

  • Lithwania – 2.7 miliwn

  • Slofenia – 2.1 miliwn

  • Latfia – 1.8 miliwn

  • Estonia – 1.3 miliwn

  • Cyprus – 1.26 miliwn

  • Lwcsembwrg – 672 o filoedd

  • Malta – 535 o filoedd

  • Gwlad yr Iâ – 375 o filoedd

Beth sydd gan y cenhedloedd hyn yn gyffredin, a beth sy’n eu gwneud yn wahanol i Gymru? Nid eu maint, na gallu a doniau eu pobl, ond y ffaith eu bod yn genhedloedd sofran sydd â rheolaeth lawn dros eu heconomïau.

O edrych yn agosach at gartref, mae Gweriniaeth Iwerddon yn enghraifft drawiadol. Yn 2021, roedd GYG y pen yng Ngweriniaeth Iwerddon yn €81,5738 – lawer gwell na Chymru ble roedd GYG y pen yn €29,884.9

Gall bod yn fach fod yn fantais hefyd. Yn eu traethawd The Flotilla Effect, nododd Adam Price a Ben Levinger nifer o fanteision economaidd sydd gan genhedloedd llai. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Bod yn fwy agored i fasnach.

  • Meithrin gwell cydlyniant cymdeithasol.

  • Gwneud penderfyniadau democrataidd yn well.

  • Rhagor o hyblygrwydd wrth addasu i ergydion economaidd annisgwyl.

Cafodd Iwerddon a Gwlad yr Iâ eu taro’n galed gan gwymp ariannol 2008, gyda’u heconomïau yn mynd ar i lawr yn ddifrifol. Serch hynny, ymhen ychydig flynyddoedd, roedd twf Iwerddon yn gynt na’r rhan fwyaf o Ewrop.10 Er mai poblogaeth debyg i Gaerdydd sydd gan Wlad yr Iâ (383,536)11 a bod ei diwydiant bancio wedi’i chwalu, roedd ei heconomi wedi ymadfer o fewn tair blynedd. Un o'r rhesymau dros lwyddiant Gwlad yr Iâ oedd ei hymateb penderfynol: yn wahanol i’r Deyrnas Unedig, cosbodd ei bancwyr di-hid, cyflwynodd ddiwygiadau ariannol sylweddol, a defnyddiodd ei harian cyfred ei hun i sefydlogi’r economi.12

Ers tranc yr Undeb Sofietaidd, mae pob un o dair gwladwriaeth y Baltig wedi dangos eu gallu i fod yn sionc ac effeithiol, ac i edrych tuag allan wrth iddynt gymryd eu lle ar lwyfan y byd, ac maent wedi perfformio’n well na sawl rhan o Orllewin Ewrop.

Ers iddi ennill ei hannibyniaeth yn 1991, mae Estonia wedi datblygu i fod yn un o brif genhedloedd y byd ym maes technoleg. Cafodd y llwyddiant hwn ei gyflawni drwy ddeddfau trethu mwy syml sy’n ei gwneud yn rhwyddach i gwmnïau gydymffurfio â’r rheoliadau, a strategaeth yn canolbwyntio ar arloesi digidol13.

Sut olwg allai fod ar Gymru heddiw, pe baem ni wedi ennill ein hannibyniaeth ym 1990? Yn The Flotilla Effect, ystyriwyd y cwestiwn hwn yn fanwl a daeth i’r casgliad y byddai economi Cymru 39% yn fwy nag ydyw heddiw petai hynny wedi digwydd.

Rheolaeth Dros Ein Heconomi

Fyddai annibyniaeth ddim yn gwneud Cymru yn fwy cyfoethog ar unwaith, ond byddai’n ein harfogi â’r elfennau o reolaeth economaidd nad oes gennym ar hyn o bryd.

Pwerau cyfyngedig iawn sydd gan Lywodraeth Cymru dros drethu a benthyca ar hyn o bryd. Mae’r pwerau sydd ganddi wedi eu cyfyngu er mwyn sicrhau na fydd Lloegr dan anfantais. Er enghraifft, mae Trysorlys y Deyrnas Unedig wedi rhwystro Cymru rhag gosod ei Threth Teithwyr Awyr ei hun oherwydd y gallai wneud Maes Awyr Caerdydd yn fwy cystadleuol na Maes Awyr Bryste.14

Yn gyffredinol, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn rhoi grant blynyddol i’r Senedd, ac mae Llywodraeth Cymru yn ei ddefnyddio i dalu am wasanaethau Cymru. Mae’r trefniant hwn yn golygu mai blaenoriaethau’r Deyrnas Unedig gyfan sy’n dylanwadu ar bolisi economaidd Cymru yn hytrach nag anghenion Cymru, ac rydym yn cael ein rhwystro rhag gweithio yn ôl cryfderau Cymru.

Byddai annibyniaeth yn newid hyn. Byddai Cymru yn sicrhau rheolaeth lawn dros:

  • Trethu a chasglu trethi –gan atal pobl gyfoethog iawn rhag osgoi talu’u trethi tra bo pobl gyffredin yn talu eu cyfran.

  • Symleiddio’r cod treth – lleihau’r bylchau a’r mannau gwan y mae corfforaethau mawr yn manteisio arnynt.

  • Rheoleiddio ei sector ariannol ei hun – gan sicrhau bod yr economi yn gweithio i bawb, nid i’r banciau a’r rhai sydd ar y brig yn unig.

Er cyd-destun, mae gan god treth y Deyrnas Unedig 17,000 o dudalennu (a dim ond 6,100 o’r rhain sydd yn gyfreithiau gweithredol)15. Mewn gwrthgyferbyniad, mae cod treth Hong Kong yn llai na 300 tudalen, ac mae Norwy yn cyhoeddi pob ffurflen dreth er m wyn bod yn gwbl dryloyw. Nid yw’r un o’r newidiadau hyn yn bosib dan ddatganoli, ond byddai’r cyfan o fewn cyrraedd mewn Cymru annibynnol.

Dysgu o Wlad yr Iâ

Byddai Cymru annibynnol yn gallu aildrefnu ei system ariannol mewn ffordd sy’n rhoi blaenoriaeth i bobl gyffredin. Mae modd ei chynllunio er mwyn atal hapfuddsoddi di-hid a diogelu gweithwyr cyffredin rhag argyfwng ariannol arall.

Pan drawodd argyfwng banciau 2008, achubodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig y banciau, gan drosglwyddo’r baich i drethdalwyr. Ni chafodd unrhyw fancwyr eu dwyn i gyfrif am gamblo gydag arian pobl. Aeth Gwlad yr Iâ ati mewn ffordd wahanol. Carcharodd 36 o fancwyr16 a chywirodd ddyledion morgeisi oedd wedi’u gor-chwyddo. Erbyn 2018, roedd economi Gwlad yr Iâ wedi ymadfer yn llwyr.

Datblygu Economi Gryfach

Byddai annibyniaeth yn caniatáu i Gymru gymryd rheolaeth dros ei dyfodol economaidd ei hun. Mae hyn yn cynnwys:

  • Buddsoddi mewn prosiectau seilwaith sylweddol, fel band eang a thrafnidiaeth.

  • Datblygu ynni adnewyddadwy ar raddfa fawr, drwy gymryd rheolaeth dros Ystad y Goron.

  • Denu diwydiannau technoleg newydd, gan wneud Cymru yn ganolbwynt ar gyfer arloesi.

Wrth gwrs, mae mwy nag arian ynghlwm ag annibyniaeth. Dylai economi gref adlewyrchu ein gwerthoedd fel cenedl – mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd, hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol, a sicrhau ansawdd bywyd da i bawb yng Nghymru.


7 Office of National Statistics (8th October 2024). “Estimates of the population for the UK, England, Wales, Scotland, and Northern Ireland (mid-2023)”.

8 Central Statistics Office, Ireland. “Gross Value Added per person at basic prices (euros), 2021”.

9 Office of National Statistics (26th April 2023). “Regional gross domestic product and gross value added: 1998 to 2021”. The value of Welsh GVA-per-head was converted from pounds (£25,665) to the value of the euro as of June 30th 2021 to enable a better comparison.

10 Prof. John Fitzgerald, Economic & Social Research Institute (June 2014). “Ireland’s Recovery from Crisis”.

11 StatsWales. “Population estimates by local authority and year (mid-2023)”.

12 Economic Online (October 14th 2024). “The Resilience of Iceland”.

13 Gerard O’Dwyer, Global Finance (March 5th 2024) “Estonia: Rebuilding the Economy”.

14 Welsh Government (19th November 2017). “Further calls for devolution of Air Passenger Duty to Wales”.

15 UK Government, Office of Tax Simplification (8th April 2012). “A 2012 analysis of tax legislation”.

16 Valur, Grettison, Reykjavik Grapevine (7th February 2018). “36 bankers, 96 years in jail”.

Parhau i Ddarllen

Darllen Mwy