Symud ymlaen o'r llywio

Pennod 6

Y Bunt, yr Ewro neu Bunt Cymru?

Yn ystod dadl y refferendwm yn yr Alban yn 2014, roedd cryn sôn am ddyfodol polisi ariannol. Mae’r Albanwyr eisoes yn cyhoeddi eu papurau banc eu hunain, ond yn y pen draw, Banc Lloegr sy’n eu gwarantu. Byddai cyhoeddi arian Cymru yn ddatblygiad newydd, ond mae’n faes lle byddai annibyniaeth yn caniatáu inni wneud y dewis iawn ar gyfer ein hamgylchiadau economaidd ein hunain.

Mae o leiaf bum opsiwn o ran arian cyfred, a phob un â’i fanteision a’i anfanteision ei hun:

Cadw’r bunt mewn undeb ffurfiol

Dyma’r opsiwn a fyddai’n achosi’r newid lleiaf, ond byddai’n golygu cadw Banc Lloegr fel benthyciwr pan fydd popeth arall yn methu, a Banc Lloegr fyddai’n gosod cyfraddau llog. Gan y byddai’n golygu undeb cyllidol gyda Lloegr, byddai amheuaeth a yw Cymru’n wirioneddol annibynnol.

Cadw’r bunt (neu arian arall) fel arian amnewid

Mae hawl gyfreithiol gan wledydd i ddefnyddio pa arian bynnag maen nhw’n ei ddymuno, heb fod mewn undeb arian. Dan yr amgylchiadau hyn, defnyddir arian amnewid yn lle, neu yn ogystal ag, arian lleol. Ar hyn o bryd nid oes neb yn defnyddio’r bunt fel arian amnewid; doler America sydd fwyaf cyffredin (er bod rhai o wledydd Ewrop, er enghraifft Montenegro, yn defnyddio’r Ewro heb fod yn rhan o Barth yr Ewro na’r Undeb Ewropeaidd).

Arian Cymru wedi ei gyplysu â’r bunt (neu arian arall)

Byddai gan Gymru ei harian ei hun – Punt Cymru – a fyddai’n union gyfwerth â phunt Lloegr. Byddai angen i Gymru sefydlu ei banc canolog ei hun (a chyhoeddi ei harian ei hun) a Sterling fyddai’r arian cyfreithiol o hyd. Fodd bynnag, byddai’n golygu y byddai gwerth arian Cymru’n codi ac yn disgyn yn ôl gwerth arian arall waeth beth fo effaith hynny ar economi Cymru. Mae hyn yn debyg i’r hyn wnaeth Iwerddon am lawer blwyddyn, yna gadael i’w harian nofio’n rhydd gyda Sterling cyn i Iwerddon ymuno â’r Ewro.

Arian Cymru gyda’i gyfradd gyfnewid ei hun

Byddai hyn yn golygu y byddai gan Gymru reolaeth lwyr dros bolisi ariannol a chyllidol, gan bennu cyfraddau llog a rheoli’r cyflenwad arian. Er y gallai fod angen mwy o waith i gyflwyno hyn na rhai o’r opsiynau sy’n cael eu hystyried yma, mae manteision di-ben-draw o gael sofraniaeth ariannol lawn, gan nad yw’r angen i gael cyllideb gytbwys dros gyfnod o amser yn cyfyngu ar y gyllideb.

Yn y tymor byr, er mwyn osgoi codi a gostwng mawr yng ngwerth yr arian, gallai fod yn fuddiol cyplysu arian newydd Cymru ag arian sy’n bodoli’n barod. Er ei bod yn aelod o’r Farchnad Sengl yn rhinwedd ei chytundeb masnach dwyochrog, mae gan y Swistir ei harian ei hun. Mae’r Ffranc wedi ei chyplysu fwy neu lai â’r Ewro er mwyn osgoi cynnydd mawr yn ei gwerth, ac mae’n cael ei hystyried yn hafan ddiogel i arian pan fydd trafferthion ariannol yn Ewrop. Gallai Cymru wneud rhywbeth tebyg gyda Sterling (neu arian arall fel yr Ewro) er mwyn osgoi gorboethi’r arian, a allai greu anhawster i’r sectorau allforio a thwristiaeth.

Ymuno â’r Ewro

Dim ond pe bai Cymru’n dewis bod yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd y byddai hyn yn opsiwn, a byddai dal i fod angen arian Cymru yn y cyfamser, gyda rheoliadau ar ddiffygion gwario cyhoeddus ac aelodaeth wirfoddol o’r Mecanwaith Cyfradd Gyfnewid Ewropeaidd (ERM II) am ddwy flynedd. Fodd bynnag, byddai masnachu â’r Undeb Ewropeaidd yn haws ac fe allai hwyluso twristiaeth o dramor; ond gallai hefyd olygu cael ein sugno i undeb cyllidol Ewropeaidd a’r posibilrwydd o ailgynnal refferendwm yr Undeb Ewropeaidd 2016.

Yn y pen draw, mater i’r cyhoedd ei benderfynu fyddai hwn, fel rhan o’r trafodaethau am annibyniaeth. Byddai gwneud y dewis iawn yn fater o ddewis yr hyn sy’n gweddu orau i’n hamgylchiadau economaidd. Ond y pwynt yw bod digonedd o opsiynau ar gael. Does dim angen gwrando ar y bobl sy’n codi bwganod ynglŷn â gorfodi Cymru i fabwysiadu arian anaddas yn groes i’n hewyllys. Mae annibyniaeth yn golygu defnyddio’r arfau sydd gennym ni i’n helpu i ddewis yr opsiwn sy’n gweithio orau i Gymru.

 

Y Bennod Flaenorol

 

Y Bennod Nesaf

A all Cymru fforddio bod yn annibynnol?   Beth am y Frenhiniaeth?

Parhau i Ddarllen

Darllen Mwy

Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Gwiriwch eich e-bost am ddolen i actifadu eich cyfrif.