Beth am y Frenhiniaeth?
Barn YesCymru yw ei bod yn well cadw mater annibyniaeth a mater y frenhiniaeth ar wahân. Gall pobl sy’n cefnogi annibyniaeth i Gymru, neu sy’n chwilfrydig ynglŷn ag annibyniaeth, fod o blaid cadw’r frenhiniaeth, ac mae pobl eraill yn weriniaethwyr pybyr.
Un cynnig yw y gellid cadw’r frenhiniaeth ar ôl annibyniaeth trwy fabwysiadu statws ‘teyrnas y Gymanwlad’, gan ddilyn cynsail hanesyddol gwledydd fel Awstralia a Chanada (lle mae Brenin neu Frenhines Prydain yn dal yn bennaeth y wladwriaeth). Petaen ni’n cadw’r frenhiniaeth ar ôl annibyniaeth, hyd yn oed dros dro, byddai’r berthynas rhwng Cymru a’r Goron yn wahanol.
Byddai tir sy’n eiddo i’r teulu brenhinol ar hyn o bryd – Ystad y Goron – yn trosglwyddo i reolaeth Llywodraeth Cymru. Yn 2019-20, roedd gan Ystad y Goron yng Nghymru asedau eiddo o £96.8 miliwn a refeniw o £8.8 miliwn. Nid yw Ystad y Goron yn gwneud elw mawr, ond byddai gan Lywodraeth Cymru rwydd hynt i ailfuddsoddi’r arian, gan ddal y tir mewn ymddiriedolaeth.
I’r rhai sy’n gwrthwynebu cadw’r frenhiniaeth, mae’n werth cofio iddi gymryd pymtheng mlynedd (ar ôl Cytundeb Eingl-Wyddelig 1921) i Iwerddon ddod yn weriniaeth. Pe bai Cymru’n penderfynu peidio â chael pennaeth etholedig ar y wladwriaeth o’r dechrau’n deg ar ôl annibyniaeth, a phe bai pobl Cymru’n rhoi mandad i wleidyddion wneud hynny, byddai modd rhoi’r cwestiwn hwn gerbron y cyhoedd mewn refferendwm arall, ar ffurf gwelliant cyfansoddiadol.
Y Bennod Flaenorol |
Y Bennod Nesaf |
|
Y Bunt, yr Ewro neu Bunt Cymru? | Cyfansoddiad i Gymru |