Cyfansoddiad i Gymru
Ym 1997, pleidleisiodd pobl Cymru, mewn refferendwm, i gefnogi datganoli. Ddwy flynedd wedyn, sefydlwyd Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Senedd Cymru yw’r enw swyddogol bellach). Yn 2011, pleidleisiodd pobl Cymru mewn refferendwm arall, y tro hwn i gynyddu pwerau deddfu’r Senedd. Yn ystod proses Brexit, mae Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol wedi ceisio dwyn pwerau yn ôl iddi hi’i hun drwy Fil y Farchnad Fewnol. Mae hyn er gwaetha’r ffaith mai Llywodraeth Cymru oedd yn gyfrifol am y pwerau hynny (o’r UE) cyn Brexit.
Democratiaeth
Peth dros dro yw pŵer datganoledig, a pheth hawdd i’w gipio yn ôl. Byddai annibyniaeth yn caniatáu inni sefydlu democratiaeth Gymreig ar sylfaen barhaol.
Mae’n bosib tanseilio ein sefydliadau democrataidd yng Nghymru am nad oes gan y Deyrnas Gyfunol gyfansoddiad ysgrifenedig. Crëwyd Senedd Cymru drwy basio deddf yn Llundain, a byddai modd cyfyngu ar ei phwerau drwy basio deddf arall yn Llundain.
Mae’r Deyrnas Gyfunol yn un o’r ychydig wledydd yn y byd sydd heb ei chyfansoddiad ysgrifenedig ei hun. Yn lle hynny, caiff “cyfansoddiad” y Deyrnas Gyfunol ei ffurfio gan benderfyniadau deddfwyr yn Lloegr a dyfarniadau llysoedd Lloegr, a’r rheini weithiau’n genedlaethau neu’n ganrifoedd oed.
Pan ddaw gwlad yn annibynnol, un o’i chamau cyntaf yw ysgrifennu cyfansoddiad newydd ar y cyd, gan nodi sut y caiff y wlad ei llywodraethu. Mae’n gosod cyfrifoldebau a chyfyngiadau ar y llywodraeth. Mae’n cyflwyno hawliau parhaol, diymwad i ddinasyddion y wlad. Mae llawer o wledydd democrataidd modern yn defnyddio eu cyfansoddiadau i warantu hawliau dynol cyffredinol. Maen nhw’n amddiffyn yr unigolyn, ac yn gwarantu i’w dinasyddion ryddid mynegiant, rhyddid i ymgynnull, rhyddid crefyddol, yr hawl i breifatrwydd a bywyd teuluol.
Amrywiaeth a Chynhwysiant
Byddai cyfansoddiad newydd yn gyfle i wneud cyfiawnder â’r rheini sydd wedi brwydro gyhyd, sydd wedi wynebu brwydrau chwerw dros hawliau y mae’r rhan fwyaf ohonon ni’n eu cymryd yn ganiataol. Mae Cymry croenliw, menywod, pobl anabl, pobl LGBTQ+ ac eraill yn dal i gyfrannu mewn ffordd hynod o werthfawr ac allweddol at ein bywyd cyhoeddus a’n cymunedau. Mae hynny wedi’i anwybyddu, ac wedi’i gymryd yn ganiataol, ers tro byd.
Rhaid i Gymru ddefnyddio’r cyfle a ddaw drwy ddrafftio cyfansoddiad newydd i gydnabod i ninnau fod â rhan mewn cam-drin hanesyddol, gan weithio i wrthod y gwahaniaethu sefydliadol a systemig sydd wedi gadael rhai o’n pobl fwyaf bregus ac ymylol mewn ofn.
Rhaid i gyfansoddiad newydd warantu triniaeth deg yn y system cyfiawnder troseddol, wrth i Gymru geisio mynd i’r afael â chamddefnyddio pwerau’r heddlu a phwerau ymchwilio, ynghyd â’n cyfradd garcharu (yn enwedig ymhlith pobl groenliw) sy’n gywilyddus o uchel o dan reolaeth y Deyrnas Gyfunol.
Hawliau Sylfaenol
Mae annibyniaeth yn llechen lân, ac yn gyfle i greu a ffurfio Cymru newydd, gan weithio yn ôl rheolau y dewiswn eu gosod ein hunain. Mae llawer o wledydd wedi mabwysiadu cyfansoddiad sy’n mynd y tu hwnt i warantu hawliau rhyddfrydig sylfaenol. Gallai cyfansoddiad Cymreig, er enghraifft, warantu hawl i ofal iechyd ac addysg am ddim. Gallai dinasyddion gael yr hawl i gartref gweddus, gan roi cyfrifoldeb ar bob llywodraeth yn y dyfodol i ddileu digartrefedd.
Gallai cyfansoddiad Cymru hefyd ddilyn esiampl cyfansoddiad y Ffindir, sy’n diogelu ei dinasyddion rhag gwahaniaethu ar sail iaith, gan roi dyletswydd gyfreithiol barhaol ar bob llywodraeth yn y dyfodol i ddiogelu a meithrin y Gymraeg.
Byddai’r broses o ddrafftio Cyfansoddiad Cymru yn dechrau cyn gynted â phosibl ar ôl refferendwm annibyniaeth llwyddiannus, gan fynd rhagddi yn ystod y cyfnod pontio o drafod rhwng llywodraethau Cymru a’r Deyrnas Gyfunol. Mae nifer o ffyrdd y gallai Cymru wneud hyn: fe allen ni naill ai roi’r dasg i Senedd Cymrun, ffurfio confensiwn cyfansoddiadol arbenigol a fydd wedi’i sefydlu’n benodol i ysgrifennu cyfansoddiad, neu hyd yn oed ysgrifennu cyfansoddiad drwy ddull “cyfrannu torfol” drwy agor y broses i’r cyhoedd.
Ar ôl cytuno ar gyfansoddiad, mae’n dueddol o fod yn anodd ei newid. Mewn rhai gwledydd, drwy refferendwm yn unig y gellir newid cyfansoddiad. Mae gwledydd eraill yn ei gwneud yn ofynnol cael uwchfwyafrif seneddol i bleidleisio o blaid unrhyw newid – dau draean o’r aelodau fel arfer, yn y ddau dŷ. Byddai’n rhaid penderfynu ar yr union broses o wneud gwelliannau i gyfansoddiad Cymru wrth ddrafftio’r cyfansoddiad. Ond yr hyn sy’n sylfaenol bwysig yw y byddai cyfansoddiad ysgrifenedig yn rhoi sylfaen barhaol i ddemocratiaeth Cymru. Byddai’n gwarantu hawliau holl bobl a chymunedau Cymru, a dim ond pobl Cymru a allai newid ein hawliau cyfansoddiadol ni ein hunain.
Y Bennod Flaenorol |
Y Bennod Nesaf |
|
Beth am y Frenhiniaeth? | Cymru, y byd a Brexit |