Dair wythnos cyn Gorymdaith Annibyniaeth Caerfyrddin a gynhelir ar 22 Mehefin, mae YesCymru wedi lansio fideo wedi'i ysbrydoli gan derfysg Merched Beca i hyrwyddo'r digwyddiad ar y cyfryngau cymdeithasol.
Darllen - Ysbryd y Becca gan Hefin Wyn
Un o ddigwyddiadau amlycaf yn hanes Merched Beca oedd gorymdaith fawr yng Nghaerfyrddin ym mis Mehefin 1843, lle gwnaeth miloedd o brotestwyr ymgynnull dan y faner "Cyfiawnder a Charwyr Cyfiawnder Ydym Ni Oll".
Bydd baner fawr o waith celf gan yr artist Meinir Mathias, sy’n cynnwys y dyfyniad uchod, yn arwain yr Orymdaith dros Annibyniaeth yng Nghaerfyrddin ar 22 Mehefin.
Yn siarad ar ran y trefnwyr, dywedodd Aled Williams ar ran YesCymru Caerfyrddin:
“Gan ymgorffori dewrder ac ysbryd Merched Beca, rydym yn gwahodd holl gefnogwyr annibyniaeth i ymuno â ni ar 22 Mehefin ar gyfer Gorymdaith Annibyniaeth yng Nghaerfyrddin! Byddwn yn ymgynnull ym Mharc Caerfyrddin am 11am, gyda'r orymdaith yn dechrau am 1pm. Dewch â'ch posteri, baneri a drymiau—dewch â'ch angerdd, eich teulu, a'ch ffrindiau. Gadewch i ni sicrhau bod ein lleisiau’n cael eu clywed wrth i ni orymdeithio gyda’n gilydd ‘pawb dan un faner’ dros ddyfodol gwell i bawb sy’n byw yng Nghymru”
Yn ogystal, ymgasglodd cefnogwyr ym Mharc Caerfyrddin dros y penwythnos i arddangos baner fawr yn hyrwyddo’r digwyddiad cyn mynd o ddrws i ddrws i ddosbarthu taflenni yn yr ardal.
Mae cefnogwyr wedi bod yn dosbarthu taflenni ledled Sir Gâr a thu hwnt ers wythnosau. Erbyn dyddiad yr orymdaith, bydd dros 50,000 o daflenni wedi'u dosbarthu.
Trefnir Gorymdaith Annibyniaeth Caerfyrddin ar 22 Mehefin ar y cyd rhwng YesCymru ac AUOBCymru. Sefydliadau llawr gwlad yw YesCymru ac AUOBCymru sy’n cael eu rhedeg gan wirfoddolwyr ac sy’n ymroddedig i hyrwyddo achos Cymru annibynnol.