Symud ymlaen o'r llywio

Gorymdaith Annibyniaeth - Aberystwyth

Rydym yn edrych ymlaen at groesawu pawb i’r Orymdaith dros Annibyniaeth yn Aberystwyth ar ddydd Sadwrn 26 Medi 2026. 

Fel arfer, bydd yn ddiwrnod addas i deuluoedd, yn llawn egni cadarnhaol, lliw a gobaith – felly peidiwch ag anghofio’ch baneri, placardiau, posteri a’ch chwibanau!

DYDDIAD: Dydd Sadwrn 26 Medi 2026
AMSER: 1pm - yr orymdaith yn cychwyn. (Cwrdd o 11am)
LLE: Gerddi’r Castell, Aberystwyth

LLWYBR YR ORYMDAITH

Tua Milltir. Gerddi’r Castell > Y Stryd Fawr > Sgwâr Owain Glyndŵr > Ffordd y Môr > Glan y Môr > Rhodfa Newydd > Gerddi’r Castell

RALI ANNIBYNIAETH - Yn dilyn yr Orymdaith

Ar ôl yr orymdaith, cynhelir rali yng Ngerddi'r Castell Aberystwyth. Bydd llwyfan a sgrin fawr, areithiau, a cherddoriaeth fyw.

MC: Siôn Jobbins

Siaradwyr: Rhun ap Iorwerth AS (Prif Weinidog Cymru), Linda Rogers (Y Blaid Werdd), Elwyn Vaughan AS (Plaid Cymru), Rob Hughes (Cadeirydd YesCymru), Hywel Griffiths (Prifardd), Bethany Davies a Cerys Hutin

Bandiau Llwyfan: Dros Dro, Connemara

Perfformwyr a Bandiau'r Orymdaith: Samba Drwm, Bagad Bro Ystwyth, Clocswyr Seithennyn, Accordions Dros Annibyniaeth, Merched Beca

MARCHNAD ANNIBYNIAETH

Bydd “Marchnad Annibyniaeth” yn cael ei chynnal yng Ngerddi’r Castell rhwng 10am a 4pm. Bydd mudiadau’n hyrwyddo eu hachosion a digonedd o nwyddau annibyniaeth ar gael.

ADLONIANT ANNIBYNIAETH

Gig Noswyl yr Orymdaith gyda Gwilym Bowen Rhys

Llew Du, Aberystwyth
7pm, nos Wener 25 Medi 2026

Am ddim!

Sesiwn Werin - Croeso i bawb!

Llew Du, Aberystwyth
4pm–8pm, dydd Sadwrn 26 Medi 2026

Am ddim!

Gig yr Orymdaith gyda Dros Dro + Steff Bwca

Y Cwps, Aberystwyth
8pm, nos Sadwrn 26 Medi 2026

Mynediad £7

Tocynnau: cy.yes.cymru/shop

NEWYDDION

CYRRAEDD ABERYSTWYTH

Rydym yn annog pawb i gyrraedd Aberystwyth erbyn 11am-12pm os yn bosibl, ac i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus lle bo modd.

Defnyddiwch cynlluniwr taith traveline.cymru i weld y manylion llawn.

TRENAU

BYSIAU

TOILEDAU CYHOEDDUS

I'w gadarnhau

 

PRYD
September 26, 2026 at 13:00 - 3pm
LLEOLIAD
Castell Aberystwyth
Aberystwyth, Wales SY23 1DZ

Map Google a chyfeiriadau
17 RSVPS

Ydych chi'n dod?